Dewislen
English
Cysylltwch

Coleg Meddygol Brenhinol yn cyhoeddi Artist ar gyfer Iechyd Meddwl

Coleg Meddygol Brenhinol yn cyhoeddi Artist ar gyfer Iechyd Meddwl

Dyddiad: Dydd Mercher, 12 Medi 2018

Bydd Jones yn gweithio gyda’r coleg ar gyfres o weithiau a gomisiynwyd i hyrwyddo effaith celf ar lesiant ac iechyd meddwl y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus Cymru fel ei gilydd.
Wrth gyhoeddi’r cyfnod fel artist preswyl, dywedodd Patrick Jones:

‘Rwy’n credu y gall y Celfyddydau helpu i ddatblygu hunanhyder a hunan-fri, cael effaith gadarnhaol ar ddiwylliant ysbytai ac unedau gofal, gwella perthnasau a morâl staff a chleifion, gwella sgiliau cymdeithasol a rhoi cyfle i gyfranogwyr ddysgu sgiliau newydd. Fel y dywedodd Voltaire flynyddoedd maith yn ôl, ‘Rhywbeth i’w wneud – rhywbeth i’w garu – rhywbeth i obeithio amdano.’

Mae gan Patrick Jones, sy’n hanu o’r Coed Duon hanes cyfoethog o gyfranogi mewn prosiectau celf ac iechyd, ar ôl gweithio’n ddiweddar gyda Chôr Forget me Not (mae aelodau’r côr hwn yn unigolion sy’n byw gyda Dementia) ar y prosiect ‘Fy Nghân Fy Stori’. Roedd y gwaith hwn yn cofnodi cerddi o ganeuon mwyaf gwerthfawr yr aelodau, a’r storïau a oedd yn sail iddynt.

‘Roedd gweld pobl yr oedd eu bywydau wedi’u handwyo gan ddementia yn ‘goleuo’ wrth iddynt ganu caneuon o’r gorffennol yn un o brofiadau mwyaf gwefreiddiol a chadarnhaol fy mywyd. Ysgrifennais ddrama “Before I Leave”, a gynhyrchwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru, sydd ar fin cael ei haddasu yn ffilm. Mae’n stori y mae’n rhaid ei hadrodd.’

Prosiect cyntaf Jones yn ei gyfnod fel artist preswyl yn datblygu’r gwaith ar Ddementia, oedd creu cyfres o nodweddion geiriau llafar a oedd yn canolbwyntio ar brofiadau bywyd pobl drwy gylchoedd canu. Bydd y gwaith hefyd yn dangos sut mae Iechyd Meddwl, gyda phwyslais ar Ofal Dementia, wedi datblygu ers 1948.

‘Dyma lle mae’r Celfyddydau yn hollbwysig ac yn ddull cuddiedig sy’n aros i gael ei ddefnyddio wrth drin pobl sy’n byw gyda Dementia. Y prosiect hwn yw man cychwyn y daith ac rydym yn gobeithio y bydd yn ymledu drwy bob un o’r rhwydweithiau Iechyd Meddwl’
Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Cadeirydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru:

‘Mae’n bleser o’r mwyaf gennyf groesawu Patrick i’r Coleg, mae’r gwaith hwn yn gyffrous ac yn bwysig iawn. Gall salwch meddwl effeithio ar unrhyw un ohonom, mae’r ffordd yr ydym yn rheoli ein hiechyd meddwl yn hollbwysig ac mae gan y Celfyddydau ran i’w chwarae yn hyrwyddo llesiant meddwl cadarnhaol.’

Ar ddechrau ei gyfnod fel artist preswyl, dywedodd Patrick Jones:
‘Mae’n wych gallu trosglwyddo’r hyn yr wyf yn ei wybod a’r hyn yr wyf wedi’i ddysgu wrth greu’r rhaglen newydd hon, ac i’r bobl hynny yr wyf wedi cwrdd â hwy dros y blynyddoedd ac wedi bod yn ddigon ffodus i gael cydweithio gyda hwy, cysylltwch â mi, mae’n gyfle gwych i gymryd rhan mewn rhaglen mor gadarnhaol â hon.’

Literature Wales