Dewislen
English
Cysylltwch

Meic Stephens (1938 – 2018)

Cyhoeddwyd Maw 3 Gor 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Meic Stephens (1938 – 2018)

Tristwch o’r mwyaf oedd clywed am farwolaeth Yr Athro Meic Stephens. Roedd Meic yn fardd, golygydd, cyfieithydd a gohebydd. O 1967 tan 1990 bu’n Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Yn Gymrawd Yr Academi Gymreig, roedd ganddo rôl allweddol wrth sefydlu Adran Saesneg yr Academi Gymreig yn 1968.

Yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr Cyngor Celfyddydau Cymru, cefnogodd Meic sefydlu Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a bu’n weithgar yn cynorthwyo i baratoi’r safle ar gyfer ei lansio a’i agor yn 1990.

Roedd yn awdur ac yn olgydd toreithiog, ac fe ysgrifennodd, golygodd a chyfieithiodd dros 170 o lyfrau. Cyrhaeddodd Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn sawl gwaith, gan ennill y Wobr Ffeithiol Greadigol yn 2014 am ei gyfrol Rhys Davies: A Writer’s Life (Parthian). Meic oedd golygydd y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, a’r Companion to the Literature of Wales.

Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant i deulu Meic.