Dewislen
English
Cysylltu

Muttersprache

Cyhoeddwyd Iau 21 Tach 2019 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Marcas Mac an Tuairneir, Ciara Ní É, Ifor ap Glyn

Dydd Mawrth, 26 Tachwedd 2019

5.00pm (amser safonol)

Canolfan Astudiaethau Prydeinig

Mohrenstraße 60

10117 Berlin

 

Ym Merlin y mis hwn gwelwn benllanw cyfres o weithgareddau llenyddol a diwylliannol I ddathlu blwyddyn ieithoedd cynhenid UNESCO ar ffurf digwyddiad o sgyrsiau a pherfformiadau yn y Ganolfan Astudiaethau Prydeinig, Prifysgol Humboldt.

Ar 26 Tachwedd, bydd Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn yn cadeirio digwyddiad amlieithog gyda Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, yr awdur a pherfformiwr o Iwerddon, Ciara Ní É,a’r bard-berfformiwr o’r Alban, Marcas Mac an Tuairneir.  Bydd yr holl awduron yn rhannu ac yn trafod iaith, llenyddiaeth a hunaniaeth eu gwledydd eu hunain, ac yn darllen detholiad o’u gwaith. Cynhelir y drafodaeth yn Saesneg, gyda’r cerddi’n cael eu perfformio yn eu hieithoedd gwreiddiol – Cymraeg, Gwyddeleg a Gaeleg.

Eleni mae’n 30 blynedd ers dymchwel wal Berlin, ac mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn wedi ei gomisinu i ysgrifennu cerdd i nodi’r digwyddiad.

Gwybodaeth am y beirdd:

Wedi’i eni a’i fagu yn un o Gymry Llundain, mae Ifor ap Glyn yn fardd, cyflwynydd, cyfarwyddwr ac yn gynhyrchydd sydd wedi ennill nifer helaeth o wobrau yn y meysydd amrywiol hyn. Mae’n Brifardd sydd wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith – y tro cyntaf yn 1999 ac yn fwyaf diweddar yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2013. Ifor oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2008 – 2009.

Mae Ifor yn byw yng Nghaernarfon ac yn gweithio i Cwmni Da – cwmni cynhyrchu teledu a ffilm annibynnol y bu’n rhan o’i sefydlu. Mae wedi ennill sawl gwobr BAFTA Cymru am ei waith gan gynnwys y cyfresi Lleisiau’r Rhyfel Mawr a Popeth yn Gymraeg.

Mae Ifor wedi camu ar lwyfannau amrywiol ar draws y byd gan berfformio mewn gwyliau megis y Smithsonian Folk Life Festival yn Washington DC.

 

Ciara Ní É yw sylfaenydd REIC, noson meic agored amlieithog sy’n cael ei chynnal yn fisol, sy’n cynnwys barddoniaeth, cerddoriaeth, adrodd straeon a rap. Mae hi wedi perfformio’n rhyngwladol ar lwyfannau yn Efrog Newydd, Llundain, Brwsel, Sweden ac ar hyd a lled Iwerddon. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi mewn amryw o gyfnodolion gan gynnwys Icarus a Comhar. Cafodd ei dewis ar gyfer cyfres Introductions Poetry Ireland yn 2017, ac yn 2018 cyhoeddodd gyfres o bedair cerdd ar ffurf fideo mewn partneriaeth â’r Irish Writers Centre, sydd ar gael i’w gwylio ar YouTube. Mae’r fideo ‘Phenomenal Women’, comisiwn o 2018 am yr LGFA (Ladies Gaelic Football Association) wedi cael ei wylio dros 300,000 o weithiau ac wedi denu sylw tuag ati hi a’i gwaith. Mae comisiynau eraill yn cynnwys RTÉ TV, BBC Radio, TG4 yn ogystal â’r Irish Writers Centre.

 

Mae Marcas Mac an Tuairneir (Mark Spencer Turner) yn ysgrifennu barddoniaeth, rhyddiaith, dramâu ac yn newyddiadura mewn Gaeleg a Saesneg, gan rannu ei amser rhwng Caeredin a’i dref enedigol, Efrog. Mae wedi cyhoeddi dau gasgliad: Deò (2013, Cyhoeddiadau Grace Note) a Lus na Tùise (Lavender) (2016, Bradan Press), yn ogystal â beul-fo-bhonn (heelster-gowdie), sef pamffled ar y cyd â Stuart A. Paterson (2017, Tapsalteerie). Mae barddoniaeth Marcas wedi’i gyhoeddi mewn amryw o gyfnodolion ac wedi cyrraedd rhestr fer sawl cystadleuaeth barddoniaeth, gan gynnwys Duais Filiochta Dhúbhglas De híde a Comórtas Filíochta an Chornéil Eoghain Uí Néill. Enillodd wobr yng Ngŵyl Llyfrau Wigtown 2017 am ei farddoniaeth Gaeleg.

Yn ogystal, mae Marcas wedi ennill sawl gwobr am ei waith fel dramodydd Gaeleg gan gynnwys Tlws Stornoway Gazette yn An Comunn Gàidhealach ddwy flynedd yn olynol am ei ddramâu Gaeleg newydd, yn 2016 a 2017. Derbyniodd deitl Comhairle nan Leabhraichean a theitl Ddramodydd Newydd Gaeleg gan Stiwdio Playwright Yr Alban yn 2016.

Mae’n gyfrannwr rheolaidd i Dàna, Cothrom Ùr a Bella Caledonia ac yn olygydd Gaeleg i un o gyfnodolion mwyaf cyffrous Yr Alban, The Poet’s Republic. Mae’n canu’n aml fel unawdydd, ac yn aelod o Lothian Gaelic Choir. Mae wedi ysgrifennu caneuon ar y cyd â cherddorion enwocaf Gaeldom, gan gynnwys Mary Ann Kennedy a Gillie Mackenzie.