Dewislen
English
Cysylltu

Muttersprache

Cyhoeddwyd Iau 26 Medi 2019 - Gan Llenyddiaeth Cymru
"Berlin" by simplethrill via Flickr is licensed under CC BY-NC-ND 2.0
Rhannu diwylliannau a ieithoedd brodorol Cymru, Yr Alban ac Iwerddon gyda’r Almaen

Ym Merlin y mis hwn gwelwn gychwyn cyfres o weithgareddau llenyddol a diwylliannol o Gymru, Iwerddon a’r Alban. Bydd artistiaid ac awduron yn rhannu eu treftadaeth ddiwylliannol, eu hunaniaeth a’u hieithoedd gyda phartneriaid ym mhrif ddinas yr Almaen.

Fel rhan o Flwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO 2019, mae Llywodraethau Cymru, Yr Alban, ac Iwerddon yn cydweithio ar raglen i ddathlu a chodi proffil ieithoedd a llenyddiaeth frodorol y gwledydd hyn. Daeth y cyhoeddiad ar 26 Medi sef Diwrnod swyddogol Ieithoedd Ewrop.

Ymysg yr artistiaid fydd yn cymryd rhan y mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, y gantores a’r gyfansoddwraig Kizzy Crawford, y bardd a’r academydd Mererid Hopwood, y cerddorion Albanaidd Shona Donaldson, Margaret Stewart a Murdo “Wasp” MacDonald, yn ogystal â’r cerddorion o Iwerddon, Eamonn Galdubh, Lorcán Mac Mathúna, Máirtín Tourish a’r arbenigwr ar yr iaith Wyddelig, Pádhraic Ó Dochartaigh.

Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau anrhydeddus amrywiol yn ninas Berlin, gan gynnwys y Ganolfan Astudiaethau Prydeinig ym Mhrifysgol Humboldt a St. Elisabeth-Kirche. Mae’r partneriaid sy’n trefnu’r digwyddiadau hyn yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Yr Alban, Llysgenadaethau Prydain ac Iwerddon yn yr Almaen, Llenyddiaeth Cymru, British Council Cymru a’r Almaen, Creative Scotland a’r Scottish Poetry Library.

Galluogwyd a chryfhawyd nifer o’r partneriaethau hyn ar ymweliad blaenorol i Ferlin ym Mehefin 2019. Cafodd Llenyddiaeth Cymru gefnogaeth gan Gronfa Ewrop British Council Cymru er mwyn cyflawni’r daith hon.

Mae’r digwyddiadau hyn yn cyd-fynd ag ymweliadau strategol swyddogion llywodraeth allweddol o’r tair gwlad i gofio 30 mlynedd ers cwymp Wal Berlin.

Y mae cynnal cysylltiadau masnach a diwylliannol cryf gyda phartneriaid ar draws Ewrop yn parhau yn flaenoriaeth fawr i lywodraethau yn y cyfnod o ansicrwydd sydd ohoni yn sgil Brexit, gyda’r Almaen yn gyswllt allweddol iddynt oll. Ystyrir y celfyddydau yn elfen hanfodol wrth gryfhau’r cysylltiadau hyn, ac fe’i defnyddir i fagu gwybodaeth a dealltwriaeth well rhwng pobl y DU a’r byd yn ehangach.

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru:

“Dyma gyfle anhygoel i ddathlu cyfoeth ein hieithoedd brodorol a’n llenyddiaethau ni oll. Mae cymryd rhan ym Mlwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO wedi darparu llwyfan i ni godi proffil rhyngwladol Cymru fel cenedl ddwyieithog a dathlu’r hanes a’r atgyfodiad yn yr ymdrechion i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg, gan anelu at un miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Rydym eisiau dangos i’r byd fod yr iaith Gymraeg yn gynhwysol ac yn allwedd i ddiwylliant Cymru; rydym eisiau cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, a darparu gofod iddi esblygu a chroesawu pobl newydd i’r iaith.”

Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru:

“Mae Cymru yn adeiladu cysylltiadau cryfion â’r Almaen. Llynedd bu British Council Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cydweithio â phartneriaeth o Dresden i raglennu gŵyl Gymreig i ddathlu’r celfyddydau perfformio, ac eleni rydym yn gallu cydweithio â’n cyfeillion yn Yr Alban, Iwerddon a’r Almaen i rannu un o rinweddau mwyaf unigryw ac arbennig Cymru – ein iaith frodorol – gyda phartneriaeth ym Merlin.”

Dengys y gweithgareddau hyn yr awydd a’r ewyllys sydd gan Gymru, a’r Deyrnas Unedig yn ehangach, i barhau i chwilio am ac adeiladu cysylltiadau gyda’n cyfeillion a’n partneriaid yn Ewrop. Sefydlwyd y prosiect hwn yn rhannol gyda chefnogaeth gan gronfa Symudedd EU British Council Cymru, sydd wedi galluogi 22 o artistiaid a sefydliadau celfyddydol Cymreig i feithrin partneriaid newydd neu i gryfhau partneriaethau sydd eisoes yn bodoli ar hyd a lled Ewrop.”

Dywedodd Asif Kahn o’r Scottish Poetry Library:

“Mae’r berthynas rhwng y cenhedloedd Celtaidd yn cryfhau, ac mewn sawl ffordd, y celfyddydau sydd yn gyrru’r cyfnewidfeydd hollbwysig yma ac yn rhannu syniadau arloesol. Mae’r Scottish Poetry Library yn chwarae ei rhan drwy bartneriaethau amrywiol, a gan arddangos gwaith gan awduron sy’n creu mewn ieithoedd brodorol, yn cynnwys Gaeleg yr Alban a Sgots, ar themâu sy’n archwilio lle, llais, pŵer, ac effaith dileu ac ymylu cymunedau sy’n hanesyddol yn cael eu cysylltu â’r ieithoedd hyn.”

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Rydym yn falch o gael bod yn rhan o’r rhaglen rhyngwladol yma i ddathlu diwylliant llenyddol Cymru gyda’n cyfeillion a’n partneriaid o’r Alban ac Iwerddon. Rydym yn rhannu hanes a treftadaeth, ac mae’n llenyddiaeth a’n hieithoedd yn dod â ni yn agosach drwy bŵer geiriau a dychymyg.”

Dywedodd Rachel Launay, Pennaeth British Council yr Almaen:

“Mae gan yr Almaen lawer o ddiddordeb mewn dysgu mwy am natur amrywiol ac aml-ieithog y DU, a’i chysylltiadau hanesyddol a ieithyddol i Iwerddon a thir mawr Ewrop.”

Bydd y tymor yn cychwyn gyda digwyddiad ar 27 Medi wedi ei drefnu gan Llywodraeth Cymru yn St. Elisabeth-Kirche ym Merlin yn canolbwyntio ar Gymru ac cynnwys cyfraniadau gan Mererid Hopwood a Kizzy Crawford.

Bydd y tymor yn parhau gyda digwyddiad yn dathlu cerddoriaeth o’r Alban ar 4 Hydref, sylw i ddiwylliant Iwerddon ar 11 Hydref a bydd yn dod i ben gyda thrafodaeth banel a pherfformiad gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, yr awdur Gwyddelig Ciara Ní É, a’r bardd Albanaidd Marcas Mac an Tuairneir yng Nghanolfan Astudiaethau Prydeinig, Prifysgol Humboldt ar 26 Tachwedd, wedi ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru.