Dewislen
English
Cysylltwch

Gwobrau New Welsh Writing 2018 – nawr yn derbyn ceisiadau

Cyhoeddwyd Mer 25 Hyd 2017 - Gan Literature Wales
Gwobrau New Welsh Writing 2018 – nawr yn derbyn ceisiadau

Mae New Welsh Review yn falch i gyhoeddi pedwerydd iteriad Gwobrau Ysgrifennu Newydd Cymru. Gwobr 2018 yw Gwobr Prifysgol Aberystwyth am Gasgliad o Ysgrifau. I gyd-fynd â’r wobr, bydd Pleidlais y Darllenwyr ategol am y casgliad gorau o ysgrifau a gyhoeddwyd erioed yn y Saesneg (gan gynnwys mewn cyfieithiad) hefyd yn cael ei lansio.

 

Sefydlwyd y Gwobrau, sydd bellach yn eu pedwaredd flwyddyn, i hyrwyddo’r ysgrifennu byr gorau yn Saesneg ac yn flaenorol cafwyd categorïau anffuglennol gyda Gwobr WWF Cymru am Ysgrifennu Natur, a enillwyd gan Eluned Gramich yn 2015 a Gwobr Prifysgol De Cymru am Ysgrifennu Taith, a enillwyd gan Mandy Sutter ym mis Mehefin 2016. Yn 2017 cafwyd dau gategori i’r gwobrau am y tro cyntaf: Gwobr Prifysgol Aberystwyth am Atgofion a Gwobr AmeriCymru am Nofela. Yr enillwyr oedd Catherine Haines (Atgofion), a Cath Barton (Nofela).

Y wobr gyntaf yw £1,000, e-gyhoeddi gan New Welsh Review ar eu gwasgnod New Welsh Rarebyte yn 2016, a beirniadaeth gadarnhaol gan yr asiant llenyddol blaenllaw Cathryn Summerhayes yn WME. Yr ail wobr yw cwrs preswyl wythnos o hyd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yng Ngwynedd, a’r drydedd wobr yw arhosiad dros benwythnos yn Llyfrgell Gladstone yn Sir y Fflint. Bydd y tri enillydd hefyd yn derbyn tanysgrifiad o flwyddyn i New Welsh Review.

Bydd enwebiadau ar gyfer Pleidlais y Darllenwyr ar agor tan ddechrau 2018, a gellir eu hanfon drwy Twitter (#newwelshawards), ebost, neu dudalen facebook New Welsh Review. Cyhoeddir enillydd Pleidlais y Darllenwyr yn ystod digwyddiad cyhoeddi rhestr hir y gwobrau.

Cystadlaethau