Panel Ysgoloriaethau: Galwad am geisiadau am aelodau newydd

Mae Ysgoloriaethau Awduron a’r Cynllun Mentora yn weithgareddau craidd Llenyddiaeth Cymru. Maent yn galluogi egin awduron i achub ar gyfleoedd i fireinio a datblygu sgiliau llenyddol, a datblygu eu potensial creadigol a phroffesiynol. Byddwn yn canolbwyntio ar adnabod talent a datblygu egin awduron, gan gynnig y gefnogaeth gywir ar yr amser iawn, ac yn meithrin diwylliant lle bydd artistiaid yn mentro ac yn arloesi.
Rydym yn chwilio am unigolion sydd eisiau cyfrannu at adnabod talent, a datblygu sgiliau llenyddol a photensial creadigol egin awduron yng Nghymru.
Mae’r portffolio o sgiliau ac arbenigedd sy’n angenrheidiol ar gyfer y rôl yn cynnwys: trosolwg o’r byd llenyddol yng Nghymru; gwybodaeth o’r diwydiant cyhoeddi/ysgrifennu creadigol yng Nghymru; y gallu a phrofiad o ddarllen ac asesu nifer o deipysgrifau; y gallu i ddyfarnu’n feirniadol; arbenigedd mewn ysgrifennu creadigol cyfoes yng Nghymru yn Saesneg a / neu’r Gymraeg. Bydd angen gwybodaeth/arbenigedd yn o leiaf dau o’r genres yma: barddoniaeth; rhyddiaith; llenyddiaeth ffeithiol greadigol; beirniadaeth lenyddol; llenyddiaeth plant; ffuglen ar gyfer oedolion ifanc; nofelau graffeg.
Telir ffi blynyddol ar gyfer y rôl yma. Digwylir i aelodau newydd y Panel Ysgoloriaethau gychwyn yn y rôl o 1 Medi 2019.
Ceir gwybodaeth bellach ynglŷn â’r rôl a sut i ymgeisio yma.
Rhaid anfon ceisiadau at Llenyddiaeth Cymru erbyn: 12 canol dydd, Dydd Gwener 5 Gorffennaf 2019.
Cefnogir Ysgoloriaethau Awduron a Chynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru gan Y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.