Dewislen
English

Sêl Santes Dwynwen: Gostyngiad 15% oddi ar gyrsiau Tŷ Newydd

Cyhoeddwyd Gwe 25 Ion 2019 - Gan Llenyddiaeth Cymru

I ddathlu diwrnod nawddsant cariadon Cymru, am dridiau yn unig, bydd Llenyddiaeth Cymru yn cynnig gostyngiad o 15% ar bris cyrsiau Tŷ Newydd yn 2019*. Bydd y cynnig arbennig yn ddilys o 9.00 am fore Gwener 25 Ionawr hyd nes 12.00 am hanner nos nos Sul 27 Ionawr 2019.

I hawlio eich gostyngiad, defnyddiwch y cod Dwynwen15 wrth archebu cwrs ar y wefan, neu dyfynnwch y cod wrth archebu dros y ffôn. Gallwch bori drwy holl gyrsiau ysgrifennu creadigol Tŷ Newydd yn 2019 ar wefan Tŷ Newydd, o gyrsiau undydd i gyrsiau preswyl.

*Nid yw’r cod yn ddilys ar gyfer Dosbarth Meistr Barddoniaeth yr Hydref. Mae’r cynnig hwn yn ddilys ar gyfer archebion newydd, nid yw’r cynnig hwn yn effeithio ar archebion sydd wedi dod i law eisoes.

Cyfleoedd, Tŷ Newydd