Dewislen
English
Cysylltwch

Cymru yn Ffair Lyfrau Llundain – dylunio ac adeiladu stondin

Cyhoeddwyd Iau 18 Ion 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cymru yn Ffair Lyfrau Llundain – dylunio ac adeiladu stondin

Trosolwg:

Yng ngrŵp rhanddeiliaid llenyddiaeth ryngwladol yng Nghymru mae Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, British Council Cymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, Llenyddiaeth Cymru, Cyfnewidfa Llên Cymru, PEN Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.

Mae Cymru yn ymbresenoli ers amser hir yn Ffair Lyfrau Llundain drwy gyfrwng cyhoeddwyr a sefydliadau unigol, ond yn awr bydd y grŵp yn llywio cydymddangosiad cyntaf Cymru yn y Ffair, 10-12 Ebrill 2018 yn Olympia Llundain, gyda stondin a digwyddiadau yno. Peilot yw hwn gyda’r gobaith o gael presenoldeb cynyddol yn y dyfodol yno ac mewn digwyddiadau diwydiannol, rhyngwladol eraill hefyd.

 

Nod y cylch gorchwyl:

Cynrychiolaeth gydlynol, weledol, ddwyieithog i Gymru yno drwy ddylunio stondin a llyfryn mewn print ac yn ddigidol.

 

Brîff amlinellol:

  • Adeiladu a dodrefnu stondin 2018
  • Datblygu hunaniaeth weledol ddwyieithog gydlynol ar gyfer Cymru yn y Ffair yn 2018 gan gynnwys:

– Gwaith celf a dylunio dwyieithog i stondin Cymru

– Dylunio llyfryn dwyieithog mewn print ac yn ddigidol

 

Cyflwyno cynigion:

Dylech fynegi diddordeb drwy gynnwys cais amlinellol ac enghreifftiau o ddylunio a’u hanfon drwy borthol GwerthwchiGymru erbyn 29 Ionawr 2018. Dylech anfon unrhyw gwestiynau trwy GwerthwchiGymru hefyd.

Cystadlaethau