Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi cyfrol Diwrnod y Llyfr arbennig – Yn Gymraeg

Cyhoeddwyd Llu 12 Chw 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi cyfrol Diwrnod y Llyfr arbennig – Yn Gymraeg
Meleri Wyn James

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cadarnhau bod cyfrol arbennig i ddathu Diwrnod y Llyfr am gael ei chyhoeddi yn Gymraeg am y tro cyntaf erioed – ac am bris arbennig o £1!

 

Dywedodd Angharad Sinclair, Rheolwr Cynlluniau Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru, “Mae wir yn bleser cael cynnwys llyfr Cymraeg am y tro cyntaf ar gyfer Diwrnod y Llyfr. Dwi’n siŵr y bydd plant ar draws Cymru yn mwynhau darllen am antur nesaf Nel. Mae cyfres Na, Nel! yn boblogaidd tu hwnt ac yn brawf bod cyfresi gwreiddiol yn gallu dal eu tir a gwerthu’n dda.”

 

Bydd Na, Nel!: Un Tro… gan Meleri Wyn James, sydd yn cynnwys lluniau deniadol John Lund, yn cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa ar gyfer dathliadau Diwrnod y Llyfr ar 1 Mawrth 2018.

 

Dywedodd Garmon Gruffudd, Rheolwr Gyfarwyddwr y wasg: “Mae’r Lolfa yn falch dros ben o fod yn rhan o’r cynllun arloesol yma. Mae Nel wedi hen ennill ei phlwyf fel un o gymeriadau mwyaf poblogaidd plant Cymru, ac rydym yn gobeithio y bydd y gyfrol newydd hon yn hwb pellach fyth i lwyddiant y gyfres.” 

 

Fe fydd y llyfr hwn yn rhan o weithgaredd swyddogol Diwrnod y Llyfr, sydd yn derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Waterstones. Hwn fydd y tro cyntaf i lyfr Cymraeg gael ei gynnwys ymhlith y dewis o lyfrau arbennig am £1 sydd yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol fel rhan o’r ymgyrch dros y Deyrnas Unedig.

 

Bydd y llyfr yn dilyn anturiaethau Nel y ferch ddireidus, prif gymeriad y gyfres boblogaidd Na, Nel!. Fe fydd yn cyflwyno hwyl a direidi’r cyfrolau eraill ac yn annog plant i fynd ati i ddarllen gweddill y gyfres. Yn y llyfr newydd fe fydd Nel yn gosod ei hun yng nghanol y stori unwaith eto ac yn mynd o un helynt drygionus i’r llall.

 

Yn ôl yr awdur, Meleri Wyn James, “Dwi wrth fy modd yn darllen ac yn ysgrifennu ers fy mod i’n blentyn bach, a nawr dwi wrth fy modd yn darllen gyda fy mhlant fy hun a rhannu straeon cyfres Na, Nel! gyda phlant dros Gymru. Mae’n anrhydedd bod hanes gwreiddiol Nel wedi cael ei ddewis fel y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei gyhoeddi ar gyfer Diwrnod y Llyfr. Dwi’n gobeithio y bydd plant yn bachu ar y cyfle i brynu antur ddireidus ddiweddaraf Nel am £1, ac y bydd hyn yn ei dro yn eu hannog i ddarllen mwy o hanesion Nel ac i wledda ar y cyfoeth o lyfrau eraill sydd ar gael yn Gymraeg i blant heddiw.”

 

Os ydych yn llyfrwerthwr neu’n llyfrgell, gellir archebu pecyn o’r llyfrau trwy gysylltu yn uniongyrchol â Chanolfan Ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru ar 01970 624455 / canolfan.ddosbarthu@llyfrau.cymru

 

 

Literature Wales