Dewislen
English
Cysylltwch

Datganiad gan Llenyddiaeth Cymru ar yr Adolygiad Annibynnol o Gymorth ar gyfer Cyhoeddi a Llenyddiaeth yng Nghymru

Cyhoeddwyd Iau 22 Meh 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Datganiad gan Llenyddiaeth Cymru ar yr Adolygiad Annibynnol o Gymorth ar gyfer Cyhoeddi a Llenyddiaeth yng Nghymru
Datganiad Llenyddiaeth Cymru, 22 Mehefin 2017

Cafodd Llenyddiaeth Cymru gyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet a’i swyddogion ddoe (21 Mehefin) i godi pryderon difrifol ynghylch yr Adolygiad i Gyhoeddi a Llenyddiaeth. Ymhlith rhain, mae pryderon ynghylch y dystiolaeth a gynhigiwyd yn yr adolygiad a’i berthynas â’r argymhellion.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o fod wedi cynnal, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, nifer o brosiectau sylweddol sydd wedi ehangu’r cyswllt â llenyddiaeth yn ei holl ffurfiau. Mae’r rhain yn cynnwys: Menter Datblygu Llenyddiaeth De Cymru, prosiectau cymunedol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Roald Dahl 100 Cymru, Bardd Cenedlaethol Cymru, Bardd Plant Cymru, Awdur Ieuenctid Cymru, Y Lolfa Lên, Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, Her 100 Cerdd, a datblygiadau newydd mewn twristiaeth lenyddol.

Gan weithio’n agos ag ystod eang o awduron ac unigolion sy’n gweithio ym maes llenyddiaeth, mae Llenyddiaeth Cymru yn ymrwymedig i sbarduno a dathlu rhagoriaeth lenyddol, ymestyn y diffiniad o lenyddiaeth, ei ddemocrateiddio ac ehangu ei gyrhaeddiad.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn rhan o drafodaethau parhaus â’r rhanddeiliaid allweddol er mwyn datblygu strategaethau a fydd yn fuddiol i’r sector drwyddi draw.

Literature Wales