Dewislen
English
Cysylltwch

Ymgeisiwch nawr am Ysgoloriaethau i Awduron 2017

Cyhoeddwyd Maw 4 Hyd 2016 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Ymgeisiwch nawr am Ysgoloriaethau i Awduron 2017
© Richard Outram

Mae Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth, wedi cyhoeddi bod y rownd nesaf o Ysgoloriaethau i Awduron ar agor i dderbyn ceisiadau.

Mae’r Ysgoloriaethau, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, yn galluogi awduron o bob genre a chefndir i neilltuo amser ar gyfer ysgrifennu creadigol. Ers 2004, mae Llenyddiaeth Cymru wedi dyfarnu dros £1 miliwn ar gyfer Ysgoloriaethau i Awduron, gan gefnogi 244 o awduron, dyfarnu 292 o Ysgoloriaethau, ac o ganlyniad cynhyrchwyd 111 o lyfrau ac 13 o erthyglau.

Nododd Rebecca F. John, a dderbyniodd Ysgoloriaeth 2016: “Mae’r Ysgoloriaeth i Awduron Newydd a fûm yn ffodus i’w derbyn gan Llenyddiaeth Cymru wedi fy ngalluogi nid yn unig i ymchwilio i stori rwy’n temlo’n angerddol amdani ac am ei chyflwyno i’m darllenwyr, ond y mae yn ogystal wedi caniatáu amser i mi ysgrifennu; mae wedi fy sicrhau fod gennyf rywbeth pwysig i’w ddweud, a bod yna gynulleifa sydd am wrando. Rwy’n teimlo’n hynod freintiedig fy mod yn perthyn i wlad sydd mor barod i gynorthwyo a dathlu ei hawduron.”

Mae Ysgoloriaethau i Awduron 2017 ar agor i geisiadau gan awduron newydd ac awduron cyhoeddedig. Gall awduron ymgeisio am Ysgoloriaeth Awdur Newydd, Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig neu Ysgoloriaeth Cefnogi. Ceir Ysgoloriaethau Cefnogi ar gyfer awduron â phroblemau symudedd neu anableddau, er mwyn cynorthwyo gyda chyfarpar a chymorth arbennig.

Yn ogystal, mae’r Gwasanaeth Mentora i Awduron yn cynnig cymorth a chyngor ymarferol i awduron, trwy sesiynau wyneb-yn-wyneb gydag awduron proffesiynol,  er mwyn datblygu gwaith penodol sydd ar y gweill i safon cyhoeddi.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch i gyhoeddi penodiad dau aelod newydd i Banel Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru. O fis Medi 2016 bydd Sioned Williams yn Gadeirydd y Panel Ysgoloriaethau. Yn gyn-newyddiadurwraig a chynhyrchydd gyda BBC Cymru, mae nawr yn Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, ac yn cyd-reoli Tŷ’r Gwrhyd, Canolfan Gymraeg Cwm Tawe a Nedd. Mae’n darlledu fel sylwebydd ac adolygydd celfyddydau ar raglenni teledu a radio Cymraeg.

Nododd Sioned Williams: “Rwy’n teimlo’n angerddol dros ddatblygu a chefnogi dwy lenyddiaeth Cymru ac edrychaf ymlaen at ymgymryd a?’r cyfrifoldeb a’r fraint o sicrhau bod awduron mwyaf addawol a dawnus Cymru yn cael cyfle i ehangu ac ymestyn ffiniau llenyddol ein diwylliant. ”

Rydym hefyd yn croesawu Catherine Phelps, beirniad llenyddol a golygydd, i’r Panel Ysgoloriaethau. Mae’n ymchwilydd, ac wedi dysgu Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerydd a Phrifysgol De Cymru.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae cefnogi’r awdur ar bob cam o’i yrfa yn elfen graidd o waith Llenyddiaeth Cymru. Rydym yn ymfalchïo y caiff Ysgoloriaethau 2017 a’r Gwasanaeth Mentora eu cefnogi’n hael gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru eleni eto.  Bydd yr Ysgoloriaethau i Awduron yn rhoi cyfle i awduron newydd, yn ogystal ag awduron profiadol, i gynhyrchu gwaith llenyddol newydd o’r radd flaenaf yn y Gymraeg a’r Saesneg.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am Ysgoloriaethau 2017 a Mentora 2017 yw
5.00 pm Ddydd Gwener 28 Hydref 2016.
Mae’r canllawiau a ffurflenni cais 2017 ar gyfer Ysgoloriaethau  a Mentora ar gael i’w lawrlwytho o wefan Llenyddiaeth Cymru.

Ariennir Ysgoloriaethau i Awduron a Chynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru gan Y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru:
post@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266

Gwasanaethau i awduron