Os ydych chi’n chwilio am anrheg unigryw, beth am brynu casgliad Tŷ Newydd? Mae’r casgliad yn cynnwys taleb gwerth £150 a phrint giclée wedi fframio yn dangos Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd gan yr arlunydd byd-enwog Pete Fowler (sydd fwyaf adnabyddus am ei waith gyda’r Super Furry Animals).
Gall y tocyn anrheg yma gyfrannu at encil ysgrifennu ym mwthyn Nant (gweler rhagor o wybodaeth fan hyn), neu fel safle unigryw ar gyfer gwyliau gyda ffrindiau neu deulu. Unwaith y bydd cyrsiau preswyl yn ail gychwyn yn y Ganolfan, bydd modd defnyddio’r daleb tuag at gwrs hefyd. Bydd print wedi fframio o’r adeilad rhestredig gradd II yn rywbeth i gofio yn dilyn eich ymweliad neu yn cynnig ei hun fel anrheg i’w agor gan eich annwyliaid ar ddydd Nadolig.
Noder, os gwelwch yn dda: Mae’r tocyn anrheg yn ddilys am 12 mis.
Tocyn anrheg digidol yw hwn. Wedi i chi archebu, byddwn yn anfon côd electronig i’w ddefnyddio wrth archebu cwrs ar wefan www.tynewydd.cymru. Pe hoffech chi dderbyn tocyn anrheg drwy’r post, rhowch wybod i ni yn dilyn eich archeb.
Cludiant i’r DU yn unig. Ar gyfer cludiant rhyngwladol, e-bostiwch post@literaturewales.org am ddyfynbris.
Nodwch os gwelwch yn dda: efallai bydd oediad cyn anfon archebion.