Dewislen
English
Cysylltwch
Murlun y Tŵr Dŵr – Ffrâm
Murlun

Murlun y Tŵr Dŵr – Ffrâm

£165.00
Clear Selection

Print giclée o safon uchel yn dangos Murlun y Tŵr Dŵr gan yr arlunydd byd-enwog Pete Fowler (sydd fwyaf adnabyddus am ei waith gyda’r Super Furry Animals).

Mae’r Murlun y Tŵr Dŵr wedi ei ysbrydoli gan chwedloniaeth Cymru, ac wedi ei osod ar y Tŵr Dŵr yng Ngorsaf Drenau Rheilffordd y Great Western – strwythur rhestredig gradd II sy’n dyddio’n ôl i 1932.

Mae’r print wedi’i lofnodi gan Pete Fowler ac yn un o argraffiad cyfyngedig o 200. Caiff unrhyw elw ei ddefnyddio i gefnogi gweithgaredd llenyddol Cymreig, er engraifft y cynllun Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli.

1200mm x 400mm.

(Ar gael mewn ffrâm du neu wyn.)

Mewn ffrâm – £150 + £15 cludiant*

*mae’r cyfraddau postio a phacio a nodir uchod ar gyfer cludiant i’r DU yn unig. Ar gyfer cludiant rhyngwladol, e-bostiwch post@literaturewales.org am ddyfynbris CYN prynu print

 

Y dyddiad olaf ar gyfer archebion i gyrraedd cyn Nadolig yw dydd Mercher 13 Rhagfyr.

Lliw Ffrâm

Ffrâm wen, Ffrâm ddu