Print wedi ei greu gan yr artist Efa Lois (Rhithganfyddiad) yn ail-ddehongli safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd Llenyddiaeth Cymru yn Llanystumdwy. Daw’r darlun bendigedig o Dŷ Newydd â detholiad o gerdd arbennig wedi ei chreu gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru – ‘Ffydd’, i nodi achlysur pen-blwydd y ganolfan yn 30 oed yn y flwyddyn 2020. Maint y print yw A3.
Y dyddiad olaf ar gyfer archebion i gyrraedd cyn Nadolig yw dydd Mercher 13 Rhagfyr.