Beirniaid
Beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2012
Panel Beirniaidu Llyfrau Cymraeg
Cadeirydd y Panel:
Dr Jason Walford Davies
Y mae Jason Walford Davies yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg ac yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil R.S. Thomas ym Mhrifysgol Bangor. Ymhlith ei gyhoeddiadau ar waith y bardd hwnnw y mae R.S. Thomas: Letters to Raymond Garlick 1951–1999 (2009) a’i astudiaeth ar ddylanwad llenyddiaeth Gymraeg ar Thomas, Gororau’r Iaith (2003) – cyfrol a gyrhaeddodd Restr Fer Llyfr y Flwyddyn yn 2004. Y mae wrthi’n gweithio ar gofiant i Waldo Williams, ynghyd â chyfrol o ysgrifau beirniadol arno. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd yn 2004, a bydd ei gyfrol gyntaf o gerddi yn ymddangos yn 2013.
Kate Woodward
Daw o’r Dyfnant yn wreiddiol ond mae bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth lle mae’n ddarlithydd mewn Astudiaethau Ffilm yn y Brifysgol. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae gweithiau sy’n canoli ar y ffilm traws genedlaethol Patagonia, y tirlun a’r cysyniad o’r ffin yn On the Black Hill, ac ariannu ffilm yng Nghymru ers dyfodiad datganoli. Cyhoeddir ei hastudiaeth o’r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg (1971-86) gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2013.
Bethan Mair Hughes
Geiriau yw gwaith Bethan Mair. Â’i thad yn hanu o Ddyffryn Nantlle a’i mam o Gwm Afan, does ryfedd bod y Gymraeg yn ei holl amrywiaeth wedi’i denu. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Bryniago, Pontarddulais, Ysgol Gyfun Ystalyfera a Phrifysgol Bangor, lle enillodd BA ac MA yn y Gymraeg. Ar ôl cyfnodau’n gweithio ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, a chwe blynedd ar staff Coleg y Drindod, penodwyd Bethan yn olygydd llyfrau Cymraeg Gomer yn 1999, a chafodd yrfa brysur a llwyddiannus yno, yn llywio dros 300 o lyfrau drwy’r wasg yn ystod ei deng mlynedd yng nghadair y golygydd. Bellach mae hi’n gweithio ar ei liwt ei hun yn golygu, ysgrifennu a chyfieithu, yn ogystal â bod yn swyddog i Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru – gwaith sy’n cynnwys trefnu’r Fedwen Lyfrau bob blwyddyn – ac yn Gyfarwyddwr Cyhoeddi cylchgrawn materion cyfoes Barn. Ysgrifennodd gyfrolau, erthyglau ac adolygiadau, a hi fu’n casglu a threfnu’r gyfres blodeugerddi Hoff Gerddi… (Gomer). Mae Bethan hefyd yn wyneb a llais cyfarwydd ar S4C a Radio Cymru, lle gelwir arni’n gyson i drafod llyfrau.
Y beirniaid ar y Panel Beirniadu Saesneg yw Dr Spencer Jordan, Trezza Azzopardi a Dr Sam Adams. Cliciwch yma i ddarllen mwy am feirniaid y panel Saesneg.


