Tŷ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Mae’n arbenigo mewn trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl mewn amryw o genres, ffurfiau a themâu gan groesawu rhai o ymarferwyr gorau eu meysydd i diwtora yno bob blwyddyn.
Rhaglen datblygu proffesiynol i awduron o gefndiroedd incwm isel sy'n byw yng Nghymru.
Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol a gyflwynir i'r gweithiau gorau yn Gymraeg a Saesneg yn y categoriau canlynol: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.
Mae Bardd Cenedlaethol Cymru yn lysgennad diwylliannol ac yn rôl sy’n anrhydeddu rhai o’n hawduron mwyaf arloesol ac uchel eu parch. Bardd Cenedlaethol Cymru yw Ifor ap Glyn.
Drwy weithdai, perfformiadau a gweithgareddau mae cynllun Bardd Plant Cymru yn cyflwyno llenyddiaeth i blant mewn modd bywiog, deinamig a chyffrous. Bardd Plant Cymru yw Casi Wyn.
Mae Children’s Laureate Wales yn rôl lysgenhadol newydd gyda’r nod o ymgysylltu ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth. Y Children's Laureate Wales presennol yw Connor Allen.
Mae ein Cronfa Ysbrydoli Cymunedau yn cynnig cymorth ariannol tuag at ffioedd sy’n cael eu talu i awduron ar gyfer digwyddiadau llenyddol o bob math.
Rhestr Awduron Cymru
Ein cyfres o ddigwyddiadau arlein misol i ysbrydoli awduron ac ymarferwyr creadigol Cymru.
Gwefan sy'n tywys ymwelwyr ar deithiau hudolus, gan eu cyflwyno i’r straeon a’r cymeriadau sydd wedi creu’r wlad.
Cyfle i awduron ac artistiaid llawrydd barhau i dderbyn incwm yn ystod cyfnod Covid-19 trwy greu prosiectau digidol newydd ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru.
Prosiect traws-gelfyddyd yn plethu barddoniaeth a dawns, mewn partneriaeth â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Ar y Dibyn, prosiect mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru
Prosiectau o'r Archif