Dewislen
English
Cysylltwch

Datblygu Awduron

Nod Llenyddiaeth Cymru yw datblygu a chefnogi awduron ar bob cam o’u gyrfa lenyddol i gyflawni eu llawn botensial.

Rydym eisiau i ddiwylliant llenyddol Cymru gynrychioli rhychwant ac amrywiaeth ein poblogaeth. Byddwn yn parhau i roi pwyslais ar ddatblygu a rhoi llwyfan i awduron sydd wedi eu tangynrychioli, ac sydd wedi profi anghydraddoldeb hanesyddol a systemig, hiliaeth, abledd, ac anffafriaeth.

Rydym wedi meithrin ymagwedd weithredol er mwyn creu newid o fewn y sector.Yn ystod 2020, fe wnaethom adolygu ac ailwampio ein cynllun Mentora ac Ysgoloriaethau er mwyn datblygu Cynrychioli Cymru, ein rhaglen newydd datblygu proffesiynol i awduron dros gyfnod o 12 mis, sy’n cynnwys nawdd ariannol a sesiynau mentora. Roedd rhifyn cyntaf y rhaglen yn canolbwyntio ar awduron o liw. Bydd yr ail rifyn yn canolbwyntio ar awduron o gefndir incwm isel, a bydd nifer hefyd yn wynebu heriau amrywiol oherwydd eu cenedligrwydd, anabledd, junaniaeth rhyweddol, ffydd neu gred. Ceir dyddiad cau blynyddol ar gyfer ceisiadau i’r rhaglen hon.

Mae ein rhaglen Cynrychioli Cymru yn ddatblygiad pwysig i Llenyddiaeth Cymru, wrth i ni geisio cyflwyno amrywiaeth i ddiwylliant llenyddol Cymru, a sicrhau mynediad teg a chyfartal i’r sector.

Mae cyflawni cydraddoldeb a gwell diwylliant o leisiau sydd wedi eu tangynrychioli a fydd yn ysbrydoli eraill yn broses hirdymor. Rydym yn canolbwyntio ar ymdrechu i gyflwyno newid systemig, a bydd ein hymrwymiad i’r gwaith hwn yn barhaus.

 

Pryd gallaf ymgeisio am gyfleoedd Datblygu Awduron y dyfodol?

Ceir dyddiad cau blynyddol ar gyfer ein rhaglen ddatblygu Cynrychioli Cymru. Agorodd ceisiadau ar gyfer ail rifyn Cynrychioli Cymru ddydd Mawrth 26 Hydref 2021. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau rhaglen 2022-23 yw 5.00 pm Dydd Mawrth 14 Rhagfyr 2021. Bydd y rhaglen yn dechrau fis Mawrth 2022, ac yn parhau tan ddiwedd Chwefror 2023.

Mae ffurflenni cais a chanllawiau i ymgeiswyr ar gael yn awr ar wefan Llenyddiaeth Cymru. Ceir rhagor o fanylion ar wefan Llenyddiaeth Cymru yn adrannau Cyflwyno eich cais a Canllawiau a Chwestiynau Cyffredin. 

Fe gyhoeddir manylion am unrhyw gyfleoedd eraill y byddwn yn eu cynnig i awduron yma ar ein gwefan ac ar ein cyfryngau cymdeithasol: