Bydd eich cyfraniad yn ein caniatáu ni i…
Fynd ag awduron i ysgolion a chynnal gweithdai a phrosiectau ar gyfer pobl ifanc fydd yn ysbrydoli cariad at lenyddiaeth fel darllenwyr, awduron a chynulleidfaoedd.
Cefnogi rhai o’r unigolion sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau trwy ein prosiectau llesiant.
Cynnig bwrsariaethau i sicrhau’r mynediad ehangaf posibl i’n rhaglenni datblygu a mentora awduron yn Nhŷ Newydd.
Cadw Tŷ Newydd, adeilad rhestredig Gradd II* ac ein Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol o’r bymthegfed ganrif, lle sy’n llawn hanes a chartref olaf y cyn Brif Weinidog David Lloyd George.
Darganfod rhagor o wybodaeth am ein prosiectau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech archwilio cyfleoedd eraill i gefnogi Llenyddiaeth Cymru, mae croeso i chi gysylltu â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Catrin Slater, Uwch Swyddog Codi Arian, catrin.slater@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266.