Dewislen
English
Cysylltwch

Hoffwn i sgwennu / Rwy’n dechrau arni

Rydyn ni’n diffinio awduron fel pawb sy’n ysgrifennu, er mwynhad neu i ennill bywoliaeth, a hynny ym mhob cam ar eu siwrneiau llenyddol.

Mae gan bawb stori i’w hadrodd, ac rydym yn awyddus i’ch helpu i fagu hyder a’r sgiliau i’ch adrodd eich stori chi. Pa un ai ydych chi am gael eich ysbrydoli, yn edrych am gefnogaeth gan gyd-awduron a rhwydweithiau, cyfleoedd mentora neu gysgodi, cyrsiau a hyfforddiant sgwennu creadigol, gwybodaeth ac arweiniad ar sut i lywio’r sector neu ble i arddangos eich gwaith, mae’r dudalen hon yn amlinellu beth sydd gennym i’w gynnig.

Rydym yn un rhan o ddiwylliant llenyddol byrlymus, oll â cylch gwaith benodol. Ar y cyd â llu o bartneriaid ac arianwyr, rydym yn sicrhau bod cerrig camu o gyfleoedd ar gael i bawb sy’n awyddus i ysgrifennu, mynegi’u hunain, a gwneud cynnydd. Mae’n bosib y bydd sefydliadau eraill yn fwy addas i’ch cynorthwyo â cyrraedd eich nod llenyddol neu broffesiynol. Croeso i chi gysylltu gyda ni, a gallwn geisio eich cyfeirio at y sefydliad fwyaf addas.