Y Bardd Cenedlaethol presennol yw Ifor ap Glyn. Yn ystod ei gyfnod yn y rôl, mae Ifor wedi camu ar lwyfannau amrywiol ar draws y byd gan berfformio mewn gwyliau a digwyddiadau, o Fôn i Fynwy, o Tsieina i Wlad Pwyl ac o Gamerŵn i Iwerddon.
Mae wedi ei gomisiynu i ysgrifennu cerddi a rhyddiaith i nodi sawl achlysur dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys: nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan; Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO 2019; 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru; apeliadau cymdeithasol, penblwyddi ac uchafbwyntiau pêl-droed amrywiol.
Mae Ifor wedi cyfrannu’n helaeth i nifer o brosiectau ledled Cymru ac yn rhyngwladol, gan eirioli dros bŵer llenyddiaeth i wella bywydau. Mae’r rhain yn cynnwys Cofi Armi, Ffrindiau Darllen, Estyn yn Ddistaw, Hen Wlad fy Nhadau, a Cofio’r Cau.
Cliciwch yma i ddarllen cerddi comisiwn Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn.
Am Ifor ap Glyn:
Wedi’i eni a’i fagu yn un o Gymry Llundain, mae Ifor ap Glyn yn fardd, cyflwynydd, cyfarwyddwr ac yn gynhyrchydd sydd wedi ennill nifer helaeth o wobrau yn y meysydd amrywiol hyn. Mae’n Brifardd sydd wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith – y tro cyntaf yn 1999 ac yn fwyaf diweddar yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2013. Ifor oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2008 – 2009.
Mae Ifor yn byw yng Nghaernarfon ac yn gweithio i Cwmni Da – cwmni cynhyrchu teledu a ffilm annibynnol y bu’n rhan o’i sefydlu. Mae wedi ennill sawl gwobr BAFTA Cymru am ei waith gan gynnwys y cyfresi Lleisiau’r Rhyfel Mawr a Popeth yn Gymraeg.
“Dros y tair blynedd ddiwethaf mae wedi bod yn fraint cael ymateb i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau yn y calendr cenedlaethol, yn llon ac yn lleddf, gan geisio cyrraedd cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru a thu hwnt. Yn ystod y tair blynedd nesaf, dwi’n edrych ymlaen at yr her o ddatblygu ymhellach rhai o’r partneriaethau sydd wedi cychwyn yn barod, a hyrwyddo dwy lenyddiaeth ein gwlad gorau fedra’i!”
– Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn
“Rydyn ni’n wlad lle mae geiriau a thelynegiaeth yn mynd law yn llaw ac mae rôl Bardd Cenedlaethol Cymru yn dyst i’r pwysigrwydd rydyn ni’n ei roi ar iaith. Boed ar y dudalen neu ar y llwyfan, bu Ifor ap Glyn yn ein gwefreiddio a’n hysbrydoli drwy ei rôl, ond hefyd yn ymateb i’r byd o’n cwmpas a’i adlewyrchu, gan ein helpu i wneud synnwyr ohono.”
– Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford
Sefydlwyd menter Bardd Cenedlaethol Cymru yn 2005, a’r Bardd Cenedlaethol cyntaf oedd Gwyneth Lewis, a dilynwyd hi gan Gwyn Thomas yn 2006. Datblygwyd y swydd ymhellach gan Gillian Clarke a benodwyd yn 2008. Yn ystod ei chyfnod fel Bardd Cenedlaethol perfformiodd Gillian Clarke o flaen degau o filoedd o bobl ledled y byd, yn ogystal ag ennill nifer o gomisiynau a phreswylfeydd nodedig. Penodwyd Ifor ap Glyn i’r rôl yn 2015.