Cronfa Ysbrydoli Cymunedau
Cynllun ariannu unigryw ar gyfer digwyddiadau llenyddiaeth yw Cronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru. Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol o hyd at 50% o’r ffioedd a’r treuliau sy’n cael eu talu i awduron ar gyfer digwyddiadau llenyddol, gan gynnwys sgyrsiau, darlithoedd, gweithdai ysgrifennu creadigol a mwy. Gall y digwyddiadau hyn gael eu cynnal yn unrhyw le yng Nghymru; mewn neuaddau pentref, mewn llyfrgelloedd, mewn tafarndai, mewn ysgolion, mewn clybiau ieuenctid – a hefyd ar lwyfannau rhithwir ar gyfer grwpiau sy’n cwrdd arlein.
Mae Llenyddiaeth Cymru am alluogi mwy o bobl yng Nghymru i ddarganfod y pleser o gymryd rhan weithredol mewn llenyddiaeth. Rydyn ni’n credu bod gan lenyddiaeth, yn ei holl amrywiaeth, y grym i gysylltu cymunedau â’i gilydd, a rhoi cysur, ysbrydoliaeth a gobaith i’r rhai sydd ei angen fwyaf.
Cefnogir y Gronfa Ysbrydoli Cymunedau gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, ac yn 2022-23, dosbarthon ni £22,190 gyda lefel gymorth gyfartalog o £183 y cais. Drwy’r Gronfa Ysbrydoli Cymunedau, rydyn ni’n gweithio gydag unigolion a chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys awduron, darllenwyr creadigol, cynulleidfaoedd, a chyfranogwyr; ysgolion, plant a phobl ifanc; cymunedau a grwpiau llawr gwlad.
Mae’r broses ymgeisio ar gyfer y Gronfa Ysbrydoli Cymunedau yn syml ac yn gyflym. Dyma enghreifftiau o ddigwyddiadau sy’n gymwys ar gyfer nawdd:
- Ymweliadau untro, neu gyfres o ymweliadau, gan awduron ag ysgolion, llyfrgelloedd, tafarndai, clybiau, cymdeithasau, canolfannau cymunedol a lleoliadau eraill ledled Cymru, i ysbrydoli cynulleidfaoedd drwy ddarlleniadau, gweithdai ysgrifennu creadigol a sgyrsiau.
- Rhaglenni mewn lleoliadau neu wyliau sy’n arloesol, yn newydd ac yn gyffrous. Gall hyn gynnwys rhaglenni o ddigwyddiadau llenyddol mewn gwyliau bach neu deithiau llenyddol.
- Darpariaeth lenyddol mewn lleoliadau cymunedol neu leoliadau iechyd er mwyn gwella iechyd a llesiant y cyfranogwyr.
Noder os gwelwch yn dda mai dim ond i sefydliadau y gellir gwneud cynigion ariannu; ni all unigolion wneud cais.
Darllenwch drwy’r adrannau yma o’r wefan yn fanwl cym ymgeisio: Sut i ymgeisio; Cyngor i Drefnyddion Digwyddiadau, a Cymhwystra.
Rhaid cyflwyno ceisiadau ysgrifenedig gan ddefnyddio’r ffurflenni cais newydd. Ceir dwy ffurflen gais:
- Ffurflen ar gyfer digwyddiadau i oedolion a’r cyhoedd yn gyffredinol
- Ffurflen ar gyfer digwyddiadau sydd wedi eu hanelu’n benodol at blant a phobl ifanc
Mae’r ffurflenni cais yn yr adran Ymgeisiwch Nawr ar y wefan.