Dewislen
English
Cysylltwch

Rwy’n Awdur

Rydyn ni’n hyrwyddo awduron Cymru ymhlith cynulleidfaoedd gartref a thramor, yn dathlu ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, ac yn palu’r ffordd i wneud lle i leisiau’r dyfodol.

Gall awdur gymryd sawl llwybr gwahanol yn eu gyrfa, ac anelwn i ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth ar hyd y teithiau hyn. Pa un ai ydych chi’n awyddus i datblygu neu hogi eich crefft, creu enw i’ch hun fel awdur, arbrofi a chymryd risgiau, tyfu eich rhwydwaith, neu cynyddu’ch dealltwriaeth o’r sector llenyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt, mae’r dudalen hon yn amlinellu’r hyn sydd gennym i’w gynnig i chi.

Rydym yn un rhan o ddiwylliant llenyddol byrlymus, oll â cylch gwaith benodol. Ar y cyd â llu o bartneriaid ac arianwyr, rydym yn sicrhau bod cerrig camu o gyfleoedd ar gael i bawb sy’n awyddus i ysgrifennu, mynegi’u hunain, a gwneud cynnydd. Mae’n bosib y bydd sefydliadau eraill yn fwy addas i’ch cynorthwyo â cyrraedd eich nod llenyddol neu broffesiynol. Croeso i chi gysylltu gyda ni, a gallwn geisio eich cyfeirio at y sefydliad fwyaf addas.