Diweddarwyd 30 Tachwedd 2023
Mae Llenyddiaeth Cymru yn parchu preifatrwydd pob person sy’n ymweld â neu’n cofrestru ar www.llenyddiaethcymru.org (y “Wefan”) ac mae’n ymroddedig i sicrhau profiad ar-lein diogel i bawb. Mae Llenyddiaeth Cymru hefyd yn parchu preifatrwydd pob person sy’n ymgysylltu â’r gweithgaredd, cyfleoedd a gwasanaethau (ein “Gwasanaethau”) a ddarperir gan Lenyddiaeth Cymru.
- Pwrpas y Polisi Hwn
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn (“Hysbysiad Preifatrwydd”) yn esbonio ymagwedd Llenyddiaeth Cymru at unrhyw ddata personol y gallwn ei chasglu gennych chi neu yr ydym wedi ei gael amdanoch chi gan drydydd parti a’r dibenion y byddwn yn prosesu eich data personol ar eu cyfer. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn hefyd yn nodi’ch hawliau o ran prosesu eich data personol.
Bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi am natur y data personol amdanoch a gaiff ei brosesu a sut y gallwch ofyn i ni ddileu, ddiweddaru, drosglwyddo a / neu roi mynediad i chi i’r data hwnnw.
Bwriedir i’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn eich cynorthwyo i wneud penderfyniadau cytbwys wrth ddefnyddio’r Wefan a’n Gwasanaethau a / neu ddeall sut y gellir prosesu’ch data personol o ganlyniad i ddarparu’r Gwasanaethau i eraill neu fel rhan o gais i weithio i Lenyddiaeth Cymru. Cymerwch foment i’w ddarllen.
Sylwer fod yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn berthnasol yn unig i ddefnydd eich data personol a gafwyd gennym ni, ac nid yw’n berthnasol i’ch data personol a gesglir yn ystod eich cyfathrebiadau â thrydydd partïon.
- Pwy ydym ni a beth ydym ni’n ei wneud?
Gweithredir y Wefan a’r Gwasanaethau gan Llenyddiaeth Cymru. Mae Llenyddiaeth Cymru yn Gwmni wedi ei Gyfyngu drwy Warant (Rhif Cwmni 7779153) ac yn Elusen (Rhif Elusen 1146560) sydd â swyddfa gofrestredig yn Llenyddiaeth Cymru, Canolfan Glyn Jones, Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Bae Caerdydd CF10 5AL.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnwys Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a leolir yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd LL52 0LW.
- Sut i gysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn neu os ydych am arfer eich hawliau, fel y nodir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, cysylltwch â ni trwy:
E-bost: data@llenyddiaethcymru.org
Ffôn: 029 2047 2266
Post: Llenyddiaeth Cymru
Canolfan Glyn Jones
Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute
Caerdydd CF10 5AL
- Pa ddata personol yr ydyn ni’n ei chasglu a sut ydym ni’n ei ddefnyddio?
Gall Llenyddiaeth Cymru ddefnyddio eich data personol ar gyfer rhai o’r dibenion canlynol, neu bob un ohonynt, neu at ddibenion eraill a ganiateir o dan y ddeddf diogelu data: Ein prif nodau wrth gasglu data personol oddi wrthych chi yw:
- gwirio eich hunaniaeth;
- ein cynorthwyo i gyflawni ein Gwasanaethau;
- gwella, datblygu a marchnata Gwasanaethau newydd;
- cyflawni ceisiadau mewn perthynas â’n Gwasanaethau;
- cydymffurfio ag unrhyw gyfraith berthnasol, gorchymyn llys, proses farnwrol arall neu ofynion rheoleiddiwr;
- gweinyddu contractau a chytundebau;
- amddiffyn ein hawliau, eiddo neu ddiogelwch ein hunain neu drydydd partïon, gan gynnwys ein cleientiaid eraill a defnyddwyr y Wefan neu ein Gwasanaethau;
- darparu cefnogaeth ar gyfer darpariaeth ein Gwasanaethau;
- dibenion recriwtio;
- dibenion eraill sy’n ofynnol neu’n ganiataëdig yn ôl y gyfraith.
Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, gallwn brosesu’r data personol canlynol:
Os ydych yn derbyn deunydd marchnata gan Llenyddiaeth Cymru:
- Manylion cyswllt.
- Gwybodaeth ddemograffig megis côd post, dewisiadau a diddordebau.
Os ydych yn ymgeisio am swydd gyda Llenyddiaeth Cymru:
- Enw a theitl swydd.
- Manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost.
- Curriculum vitae, eich addysg, eich hanes cyflogaeth a materion tebyg a gwybodaeth debyg y gallwch ei darparu i ni.
- Gwybodaeth arall sy’n berthnasol i recriwtio posibl.
Os ydych yn derbyn ein Gwasanaethau:
- Enw.
- Teitl swydd.
- Manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriadau e-bost.
- Manylion talu.
- Gwybodaeth arall sy’n berthnasol i Ddarpariaeth Gwasanaethau.
- Gwybodaeth a roddwch i ni fel rhan o ddarparu’r Gwasanaethau i chi, sy’n dibynnu ar natur eich cytundeb gyda Llenyddiaeth Cymru.
- Gwybodaeth berthnasol fel sy’n ofynnol gan sefydliadau rheoleiddio, arianwyr a rhanddeiliaid eraill.
Rhestr anghyflawn yw’r canlynol sy’n adlewyrchu natur amrywiol y data personol a broseswyd fel rhan o’n busnes.
Efallai y byddwn yn defnyddio’ch data personol at y dibenion canlynol:
i) Darparu gwasanaethau
Rydym yn casglu a chynnal data personol yr ydych yn ei gyflwyno i ni i’n galluogi i gyflawni’r Gwasanaethau.
Gyda phwy rydym yn rhannu’ch data personol at y diben hwn?
Efallai y byddwn yn rhannu data personol gydag amrywiaeth o’r categorïau canlynol o drydydd partïon fel bo’r angen wrth ddarparu’r Gwasanaethau:
- Partneriaid gweithgaredd ar gyfer cyfathrebu, cynhyrchu deunyddiau, neu ddarparwr gwasanaethau ychwanegol sy’n ofynnol o dro i dro.
- Rheoleiddwyr, cyllidwyr gweithgaredd a rhanddeiliaid at ddibenion cydymffurfio rheoleiddiol, a chyflwyno adroddiadau a gwerthuso gweithgaredd.
- Partneriaid o fewn y cyfryngau, at ddibenion rhoi cyhoeddusrwydd i weithgaredd
Noder nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, ac mae’n bur bosib y bydd enghreifftiau eraill lle mae angen i ni rannu â phartïon eraill er mwyn gallu darparu’r Gwasanaethau mor effeithiol ag y gallwn.
Beth yw ein sail gyfreithiol?
Mae’n angenrheidiol i ni ddefnyddio eich data personol i gyflawni ein rhwymedigaethau yn unol ag unrhyw gontract y gallwn ei gael gyda chi neu sydd o fewn ein diddordeb cyfreithlon neu ddiddordeb cyfreithlon trydydd parti i ddefnyddio data personol mewn modd sy’n sicrhau ein bod ni darparu’r Gwasanaethau yn y ffordd orau y gallwn ni. Bydd contractau unigol yn cael eu prosesu ar sail gyfreithiol Gweinyddu Contractau.
ii) Gwybodaeth a chyngor
Mae ein Safle’n defnyddio rhyngwynebau amrywiol o ddefnyddwyr i’ch galluogi i ofyn am wybodaeth am ein Gwasanaethau: mae’r rhain yn cynnwys ffurflenni ymholiadau printiedig ac electronig a gwasanaeth ymholiadau ffôn. Gellir gofyn am wybodaeth gyswllt ym mhob achos, ynghyd â manylion data personol eraill sy’n berthnasol i’ch ymholiad Gwasanaeth. Defnyddir y wybodaeth yma er mwyn ein galluogi i ymateb i’ch ceisiadau.
Gyda phwy fyddwn yn rhannu’ch data personol at y diben hwn?
Nid ydym yn rhannu data personol at y diben hwn.
Beth yw ein sail gyfreithiol?
Mae’n ddiddordeb dilys i ni neu i drydydd parti i ddefnyddio’ch data personol mewn modd sy’n sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi neu i eraill. Bydd caniatâd unigol hefyd yn cael ei sefydlu yn dilyn cyswllt ar gyfer derbyn deunydd marchnata.
iii) Gwerthusiad o’n Gwasanaethau
O bryd i’w gilydd, byddwn yn cysylltu â chi i’ch gwahodd i ddarparu adborth am ein Gwasanaethau ar ffurf cyfathrebiad(au) ar-lein neu trwy’r post. Defnyddir y wybodaeth yma i’n helpu i wella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan ein staff. Rydym hefyd yn defnyddio eich adborth i fonitro ansawdd ein Gwasanaethau.
Gyda phwy fyddwn yn rhannu’ch data personol at y dibenion hyn?
Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnal gwerthusiadau mewnol ac ar adegau rydym yn defnyddio darparwr gwasanaeth trydydd parti i’n cynorthwyo gydag arolygon cleientiaid a cheisiadau am adborth.
Beth yw ein sail gyfreithiol?
Mae o fewn ein diddordeb busnes dilys i ddefnyddio’r wybodaeth a roddwch i ni yn eich adborth at y dibenion a ddisgrifir uchod. Gall gofynion adborth a gwerthuso hefyd fod yn rhan o gontract ffurfiol gyda Llenyddiaeth Cymru ac, mewn achosion o’r fath, y sail gyfreithiol fydd Gweinyddu Contractau.
iv) Gweinyddu busnes a chydymffurfiaeth gyfreithiol a rheoleiddiol
Defnyddiwn eich data personol at y dibenion gweinyddu busnes a chydymffurfiaeth canlynol:
- i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol;
- i orfodi ein hawliau cyfreithiol;
- i gydymffurfio â gofynion yr ariannwr a’r rheoleiddiwr.
Gyda phwy rydym yn rhannu’ch data personol at y dibenion hyn?
Byddwn yn rhannu eich data personol gydag ymgynghorwyr proffesiynol fel cyfreithwyr a chyfrifwyr, awdurdodau llywodraethol a rheoleiddiol a chyllidwyr.
Beth yw ei sail gyfreithiol?
Ble byddwn yn defnyddio’ch data personol mewn cysylltiad â thrawsnewidiadau busnes, taliadau, contractau, i orfodi ein hawliau cyfreithiol, neu i ddiogelu hawliau trydydd partïon, mae’n fudd cyfreithlon i ni wneud hynny. Bydd prosesu data i weinyddu contractau yn deillio o sail gyfreithiol Gweinyddu Contractau. Bydd adrodd cyfreithiol gorfodol yn deillio o sail gyfreithiol y Rhwymedigaeth Gyfreithiol.
v) Recriwtio
Byddwn yn defnyddio eich data at y dibenion recriwtio canlynol:
- I asesu eich addasrwydd ar gyfer unrhyw swydd y gallwch wneud cais amdani yn Llenyddiaeth Cymru.
- I adolygu proffil cyfle cyfartal Llenyddiaeth Cymru yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Gyda phwy rydym yn rhannu’ch data personol at y dibenion hyn?
Ni fyddwn yn rhannu’r data personol rydych chi’n ei ddarparu yn uniongyrchol. Efallai eich bod wedi cyfathrebu â Llenyddiaeth Cymru drwy drydydd parti (ee ymgynghoriadau recriwtio). Yn yr achosion hyn, bydd eich data personol yn cael ei rannu gyda Llenyddiaeth Cymru gan y trydydd parti, a dylech ddarllen eu polisi preifatrwydd a’u / neu eu telerau.
Beth yw ein sail gyfreithiol?
Pan fyddwn yn defnyddio’ch data personol mewn cysylltiad â recriwtio, bydd hynny yng nghyd-destun ni yn cymryd camau ar eich cais i ddod i mewn i gontract a all fod gennym gyda chi neu ei fod yn ddiddordeb dilys i ni ddefnyddio data personol mewn modd sy’n sicrhau ein bod ni yn gallu gwneud y penderfyniadau recriwtio gorau. Ni fyddwn yn prosesu unrhyw ddata arbennig heblaw lle gallwn wneud hynny o dan ddeddfwriaeth berthnasol neu gyda’ch caniatâd echblyg.
vi) Dadansoddiad Rhyngweithio
Rydym yn dadansoddi eich manylion cyswllt ynghyd â data personol arall yr ydym yn arsylwi arno o’ch rhyngweithio â’n Safle, ein cyfathrebu e-bost gyda chi ac / neu gyda’n Gwasanaethau fel y Gwasanaethau yr ydych eisoes wedi eu gweld. Os ydych wedi rhoi eich caniatâd (pan fo hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith), rydym yn defnyddio cwcis, ffeiliau log a thechnolegau eraill i gasglu data personol o’r caledwedd cyfrifiadurol a’r meddalwedd a ddefnyddiwch i fynd i’r Wefan gan ddefnyddio’ch cyfrifiadur neu eich ffôn symudol.
Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- Cyfeiriad IP i fonitro traffig a chyfaint y Safle;
- ID y sesiwn er mwyn olrhain ystadegau defnydd ar ein Safle;
- gwybodaeth am eich diddordebau personol, proffesiynol, demograffeg, arferion prynu, profiadau gyda’n cynnyrch a dewisiadau cyswllt.
Mae ein tudalennau gwe ac e-byst yn cynnwys “cwcis” “ffaglau gwe” neu “dagiau picsel” (“Tagiau”). Mae tagiau yn ein galluogi i olrhain derbyn e-bost yn ôl atoch chi, i gyfrif y defnyddwyr sydd wedi ymweld â gwefan neu wedi agor e-bost, a chasglu mathau eraill o wybodaeth gyfansawdd. Ar ôl i chi glicio ar e-bost sy’n cynnwys Tag, gall eich gwybodaeth gyswllt gael ei chroesgyfeirio wedyn i’r e-bost ffynhonnell a’r Tag perthnasol. Mewn rhai o’n negeseuon e-bost, rydym yn defnyddio “click-through URL” sy’n gysylltiedig â gwefan benodol a weinyddir gennym ni neu ar ein rhan.
Gweler ein Polisi Cwci am wybodaeth bellach.
Trwy ddefnyddio’r wybodaeth yma, gallwn fesur effeithiolrwydd ein cynnwys a sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein Safle a’n Gwasanaethau. Mae hyn yn ein galluogi i ddysgu pa dudalennau o’n Safle sydd fwyaf deniadol i’n hymwelwyr, pa rannau o’n Safle sydd o ddiddordeb pennaf i’n hymwelwyr a pha fath o gynigion y mae ein defnyddwyr cofrestredig yn hoffi eu gweld. Rydym hefyd yn defnyddio’r wybodaeth yma at ddibenion marchnata (gweler yr adran ynglŷn â marchnata isod am ragor o fanylion).
Gyda phwy rydym yn rhannu’ch data personol at y dibenion hyn?
Rydym yn rhannu’ch data personol gydag amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti i’n cynorthwyo â dadansoddeg mewnwelediad cleientiaid.
Beth yw ein sail gyfreithiol?
Pan fo’ch data personol yn gwbl ddienw, nid oes angen sail gyfreithiol arnom i’w ddefnyddio gan na fydd y wybodaeth bellach yn cael ei ystyried yn ddata personol a reoleiddir o dan gyfreithiau diogelu data. Fodd bynnag, gall ein casglu a’n defnydd o ddata personol dienw o’r fath fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau eraill lle mae angen sicrhau eich caniatâd.
Os nad yw eich data personol mewn ffurf anhysbys, mae o ddiddordeb dilys i ni ddefnyddio eich data personol mewn modd sy’n sicrhau ein bod yn darparu’r cynhyrchion a’r gwasanaethau gorau i chi a’n cleientiaid eraill.
vii) Cyfathrebiadau marchnata
Rydym yn cynnal y gweithgareddau marchnata canlynol gan ddefnyddio’ch data personol:
Marchnata electronig a thrwy’r post
Rydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch a ddaw i’n sylw trwy’ch rhyngweithio â’n Safle, ein cyfathrebu e-bost atoch chi a / neu gyda Gwasanaethau a / neu fanylion eich cyfeiriad, i anfon cyfathrebiadau marchnata i chi yn electronig a / neu drwy’r post.
Gyda phwy fyddwn yn rhannu’ch data personol at y diben hwn?
Nid ydym yn rhannu data personol at y diben hwn.
Beth yw ein sail gyfreithiol?
Pan fo’ch data personol yn gwbl ddienw, nid oes angen sail gyfreithiol arnom i’w ddefnyddio gan na fydd y wybodaeth bellach yn cael ei ystyried yn ddata personol a reoleiddir o dan gyfreithiau diogelu data. Fodd bynnag, gall ein casglu a’n defnydd o ddata personol dienw o’r fath fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau eraill lle mae angen sicrhau eich caniatâd.
Os nad yw eich data personol mewn ffurf ddienw, fel eich e-bost neu’ch cyfeiriad post, bydd defnyddio’ch data personol ar gyfer marchnata yn seiliedig ar Ganiatâd Unigol. Dim ond os ydych wedi cydsynio i dderbyn cyfathrebiadau marchnata trwy e-bost neu trwy’r post, neu ble mae hawl cyfreithlon gennym i wneud hynny, y bydd Llenyddiaeth Cymru yn anfon cyfathrebiadau marchnata atoch.
Sut rydym yn cael eich caniatâd?
Pan fydd ein defnydd o’ch data personol yn gofyn am eich caniatâd, gallwch roi caniatâd o’r fath:
- ar yr adeg y casglwn eich data personol; neu
- trwy roi gwybod i ni trwy e-bost, trwy’r post neu dros y ffôn gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn
- Defnydd cwcis
Mae ein Safle’n defnyddio cwcis, picseli, ffaglau, ffeiliau log a thechnolegau eraill y dylech fod yn ymwybodol ohonynt. Gweler ein Polisi Cwcis er mwyn darganfod mwy am y cwcis a ddefnyddir gennym a sut i reoli a dileu cwcis.
Gallwch weld ein Polisi Cwci yma.
- Contractwyr trydydd parti
Gall Llenyddiaeth Cymru benodi isgontractiwr prosesu data fel bo’r angen i ddarparu Gwasanaethau megis, heb gyfyngiad, offer a gwasanaethau dadansoddegol a darparwyr gwasanaethau eraill, a fydd yn prosesu data personol ar ein rhan ac ar ein cyfarwyddyd. Rydym yn cynnal lefel briodol o ddiwydrwydd dyladwy ac yn rhoi dogfennaeth gontract angenrheidiol ar waith mewn perthynas ag unrhyw is-gontractwr i sicrhau eu bod yn prosesu data personol yn briodol ac yn unol â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol.
- Trosglwyddiadau y tu hwnt i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd
Nid yw Llenyddiaeth Cymru yn trosglwyddo data i wledydd y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Os bydd trosglwyddiadau o’r fath yn angenrheidiol er mwyn bodloni gofynion rheoleiddiol, cyfreithiol neu fusnes, bydd y Rhybudd Preifatrwydd hwn yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu hyn a bydd Llenyddiaeth Cymru yn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol mewn perthynas â’r data personol gan gynnwys ond heb gyfyngiad bod â sail gyfreithlon dros drosglwyddo data personol a rhoi mesurau diogelu priodol ar waith i sicrhau lefel ddigonol o ddiogelwch ar gyfer y data personol hwnnw.
- Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?
Bydd data personol cyffredinol a ddefnyddir i gefnogi ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu yn cael ei gadw am o leiaf dair blynedd o ddyddiad ein rhyngweithiad olaf â chi ac yn unol â’n rhwymedigaethau o dan Reoliadau Gwarchod Data Cyffredinol y DU.
Bydd data personol a brosesir fel rhan o ddarparu’r Gwasanaethau yn cael ei gadw am o leiaf chwe blynedd o ddyddiad ein rhyngweithio olaf â chi ac yn unol â’n rhwymedigaethau o dan Reoliadau Gwarchod Data Cyffredinol y DU (neu am gyfnod hwy fel y mae’n ofynnol i ni wneud, yn unol â’n rhwymedigaethau rheoleiddio neu rwymedigaethau indemniad proffesiynol).
Gallwn wedyn ddinistrio ffeiliau o’r fath heb rybudd neu atebolrwydd pellach.
Os yw data personol yn ddefnyddiol am gyfnod byr yn unig e.e. ar gyfer ymgyrchoedd marchnata penodol, gallwn ei ddileu yn gynt na’r hyn a nodir uchod, heb rybudd nac atebolrwydd pellach.
- Cyfrinachedd a diogelwch eich data personol
Rydym wedi ymrwymo i gadw’r data personol a roddir i ni yn ddiogel, a byddwn yn cymryd rhagofalon rhesymol i ddiogelu data personol rhag cael ei golli, ei gamddefnyddio neu ei newid.
Rydym yn gweithredu polisïau diogelwch gwybodaeth, rheolau a mesurau technegol er mwyn amddiffyn y data personol sydd gennym o dan ein rheolaeth rhag:
- mynediad heb ei awdurdodi;
- defnydd amhriodol neu ddatgeliad;
- addasu anawdurdodedig
- dinistrio anghyfreithlon neu golled ddamweiniol.
Mae ein holl gyflogedigion a phrosesyddion data (h.y. y rhai sy’n prosesu eich data personol ar ein rhan, at y dibenion a restrir uchod), sydd â mynediad at, ac sy’n gysylltiedig â phrosesu data personol, dan rwymedigaeth gytundebol i barchu cyfrinachedd data personol.
Mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r data personol sydd gennym amdanoch chi:
– Eich hawl mynediad
Os byddwch yn gofyn i ni, byddwn yn cadarnhau p’un ai a ydym yn prosesu eich data personol ai peidio ac, os oes angen, byddwn yn darparu copi i chi o’r data personol hwnnw (ynghyd â manylion penodol eraill). Os oes angen copïau ychwanegol arnoch, efallai y bydd angen i ni godi ffi rhesymol.
– Eich hawl i gywiro data
Os yw’r data personol yr ydym yn ei ddal amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, mae’r hawl gennych i’w gael wedi ei gywiro. Os oes gennych hawl i gywiro ac os ydym wedi rhannu eich data personol gydag eraill, byddwn yn rhoi gwybod iddynt am y cywiriad lle bo modd. Os byddwch yn gofyn i ni, lle bo’n bosibl a’i bod yn gyfreithlon i ni wneud hynny, byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi gyda phwy rydyn ni wedi rhannu eich data personol fel y gallwch gysylltu â hwy yn uniongyrchol.
– Eich hawl i ddileu
Gallwch ofyn i ni ddileu neu ddiddymu eich data personol mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft, lle na fyddwn ei angen mwyach neu os byddwch yn tynnu’ch caniatâd yn ôl (lle bo hynny’n berthnasol). Os oes gennych hawl i gael dileu’r data ac os ydym wedi rhannu eich data personol gydag eraill, byddwn yn rhoi gwybod iddynt am y diddymiad lle bo modd. Os byddwch yn gofyn i ni, lle mae’n bosibl ac yn gyfreithlon i ni wneud hynny, byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi gyda phwy rydyn ni wedi rhannu eich data personol fel y gallwch gysylltu â hwy yn uniongyrchol.
– Eich hawl i gyfyngu prosesu
Gallwch ofyn i ni ‘flocio’ neu osgoi prosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau, e.e. lle rydych chi’n amau cywirdeb y data personol hwnnw neu os ydych chi’n gwrthwynebu i ni ei brosesu. Os oes gennych hawl i gyfyngu ar y prosesu ac os ydym wedi rhannu eich data personol gydag eraill, byddwn yn eu hysbysu am y cyfyngiad lle bo modd i ni wneud hynny. Os byddwch yn gofyn i ni, a lle bo’n mae’n bosibl ac yn gyfreithlon i ni wneud hynny, byddwn hefyd yn dweud wrthych gyda phwy rydyn ni wedi rhannu eich data personol fel y gallwch gysylltu â nhw yn uniongyrchol.
– Eich hawl i hygludedd data
Yn effeithiol o’r 25ain o Fai 2018, mae’r hawl gennych, o dan rai amgylchiadau, i gael data personol rydych chi wedi ei roi i ni (mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn aml ac sy’n ddarllenadwy ar gyfer peiriannau) a’i ailddefnyddio yn rhywle arall neu ofyn i ni drosglwyddo hyn i drydydd parti o’ch dewis. Ni fydd Llenyddiaeth Cymru yn codi ffi am hyn, a bydd yn cydymffurfio ag unrhyw gais i drosglwyddo ymhen un mis.
– Eich hawl i wrthwynebu
Mae gan unigolion hawl i ofyn am i unrhyw brosesu o’u data personol gael ei gyfyngu i’r diben y’i darparwyd ar ei gyfer yn wreiddiol. Dylid cyflwyno hyn i’r Rheolwr Corfforaethol. Mae gan unigolion hawl i wrthwynebu i’w data gael ei brosesu, os yw prosesu o’r fath yn seiliedig ar seiliau cyfreithiol buddiant dilys neu rwymedigaeth gyfreithiol, os ydynt o’r farn bod eu hawliau a’u buddiannau yn gorbwyso rhai Llenyddiaeth Cymru.
Gall unigolion wrthod cydsynio neu wrthwynebu bod data’n cael ei brosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol. Gellir tynnu caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.
– Eich hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd
Mae gennych yr hawl i beidio â bod yn ddarostyngedig i benderfyniad pan fydd yn seiliedig ar brosesu awtomatig, gan gynnwys proffilio, os yw’n cael effaith gyfreithiol neu effaith gref gyffelyb arall arnoch, oni bai bod angen proffilio o’r fath ar gyfer ymrwymo i gontract neu er mwyn creu contract rhyngoch chi a ni.
– Eich hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl
Os ydym yn dibynnu ar gael eich caniatâd (neu ganiatâd penodol) fel ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol, mae gennych yr hawl i dynnu’r caniatâd hwnnw yn ôl ar unrhyw adeg.
– Eich hawl i gyflwyno cwyn i’r awdurdod goruchwyliol
Os oes pryder gennych am unrhyw agwedd o’n harferion preifatrwydd, gan gynnwys y ffordd yr ydym wedi trin eich data personol, gallwch hysbysu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn y DU. Gallwch ddod o hyd i fanylion pellach ynglŷn â sut i wneud hynny ar wefan ICO yn www.ico.org.uk neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
- Casglu gwybodaeth gan wefannau trydydd parti
Mae’r Wefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill y gall eu harferion gwybodaeth fod yn wahanol i’n rhai ni. Dylai ymwelwyr ddarllen hysbysiadau preifatrwydd gwefannau eraill gan nad oes gan Lenyddiaeth Cymru unrhyw reolaeth dros wybodaeth a gyflwynir i’r trydydd parti, neu a gesglir gan y trydydd partïon hyn.
- Newidiadau i’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn
Er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r modd yr ydym yn defnyddio’ch data personol, byddwn yn diweddaru’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn o dro i dro i adlewyrchu unrhyw newidiadau i’n defnydd o’ch data personol. Efallai y byddwn hefyd yn gwneud newidiadau yn ôl yr angen i gydymffurfio â newidiadau yn y gyfraith berthnasol neu yn y gofynion rheoliadol. Byddwn yn eich hysbysu trwy e-bost o unrhyw newidiadau arwyddocaol. Fodd bynnag, rydym yn eich annog i fwrw golwg dros yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn rheolaidd fel eich bod yn gwybod sut yn union rydym yn defnyddio eich data personol.