Rwy’n trefnu digwyddiadau llenyddol
Mae llenyddiaeth yn ein cysylltu ni â’n gilydd ar adeg o raniadau cynyddol ac ansicrwydd byd-eang. Mae’r straeon y byddwn ni’n eu darllen, yn eu clywed, ac yn eu dweud wrth ein gilydd yn ein helpu i ddehongli cymhlethdodau ein bywydau ac i wneud pen a chynffon o’n byd. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen grym llenyddiaeth arnon ni yn ein bywydau.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi mwy o gymunedau Cymru i ymwneud â’r diwylliant llenyddol sydd ar garreg eu drws. Gallwn gynnig cymorth ariannol ar gyfer eich digwyddiadau llenyddol a’ch helpu i’w hyrwyddo i gynulleidfaoedd ar draws Cymru.