Children’s Laureate Wales

Ers ei sefydlu yn 2019, caiff y rôl ei gwobrwyo pob dwy flynedd i awdur o Gymru sydd yn angherddol dros sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth.
Mae’r Children’s Laureate Wales wedi ymrwymo i:
- Ehangu mynediad plant a phobl ifanc at lenyddiaeth, yn benodol plant a phobl ifanc o gefndiroedd ymylol a chefndiroedd sydd yn cael eu tangynrychioli
- Gwella iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc drwy lenyddiaeth
- Cynyddu mwynhad plant a phobl ifanc o lenyddiaeth
- Grymuso plant a phobl ifanc drwy greadigrwydd
Y Children’s Laureate Wales presennol yw’r bardd a’r perfformiwr Connor Allen, ac ef yw’r ail awdur i gamu i’r rôl.
Cyhoeddwyd mai Connor oedd y Laureate newydd ar Ddiwrnod Barddoniaeth 2021. Bydd yn ymgymryd â’r rôl hyd at Awst 2023, gan weithio’n galed er mwyn sicrhau bod barddoniaeth yn hygyrch, yn hwyliog, ac yn berthnasol i blant a phobl ifanc ar draws Cymru.
Mae’r Children’s Laureate Wales yn chwaer-brosiect i Bardd Plant Cymru, ac mae’r ddwy rôl yn cyfrannu tuag at fagu cenhedlaeth iachach, fwy creadigol a mwy amrywiol o ddarllenwyr ac awduron ar draws Cymru.
Mae’r Children’s Laureate Wales yn cadw’n brysur drwy:
- Rhedeg gweithdai barddoniaeth oddi fewn a thu hwnt i’r dosbarth
- Ysgrifennu cerddi comisiwn swyddogol i nodi achlysuron arbennig ac ymgyrchoedd sydd o bwys i blant a phobl ifanc
- Creu adnoddau creadigol ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc
- Eirioli dros leisiau plant a phobl ifanc Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
Gallwch wneud cais am ymweliad gan y Children’s Laureate Wales drwy gwblhau’r ffurflen isod. Am bob ymholiad arall, gan gynnwys syniadau prosiectau neu gydweithio, cysylltwch drwy e-bostio childrenslaureate@literaturewales.org neu ffonio 029 2047 2266.
Dilynwch Children’s Laureate Wales ar Twitter.