Dewislen
English
Cysylltwch

Rwy’n awyddus i glywed mwy am eich prosiectau

Gall cymryd rhan mewn llenyddiaeth olygu sawl peth. Gall olygu darllen neu wrando ar straeon, ysgrifennu’n greadigol, cyfrannu at weithdai, neu fwynhau ymweliadau gan awduron mewn ysgolion, cymunedau a gwyliau. Mae’n rhan ganolog o ddiwylliant Cymru, a chyn pandemig COVID-19 roedd dros 150 o grwpiau llenyddol lleol yng Nghymru yn cynnal gweithdai a digwyddiadau yn eu cymunedau ym mhob cwr o’r wlad.

Rydyn ni’n credu bod gan bawb yr hawl i gymryd rhan mewn llenyddiaeth ac i’w mwynhau yn ei holl ffurfiau, ac rydym ni’n awyddus i’w gwneud hi’n haws i bobl ledled y wlad allu gwneud hynny.  Rydym yn cefnogi gweithgareddau drwy gynnig cymorth ariannol, trwy weithio mewn partneriaeth, a thrwy greu cymuned o hwyluswyr medrus. Isod mae engrhreifftiau o sut yr ydym wedi arwain, cefnogi, neu hwyluso prosiectau trwy’n gwaith cyfranogi.

Gwaith Comisiwn i Awduron Llenyddiaeth Cymru

Dyma fenter sydd yn ein galluogi i gefnogi awduron llawrydd, a darparu gweithgaredd allai fynd i’r afael ag unigrwydd ymysg cyfranogwyr, neu ddiddanu, ysbrydoli ac addysgu cynulleidfaoedd creadigol, egin awduron, plant a chyfranogwyr ledled Cymru.

Llên Pawb | Lit Reach

Mae Llên Pawb yn brosiect cymunedol a ddarparodd gyfleoedd creadigol a chelfyddydol trwy lenyddiaeth i gyrraedd y bobl y mae arnyn nhw ein hangen ni fwyaf, a hynny drwy brosiectau sy’n gwir ateb eu hanghenion.

Cynllun Nawdd Llên er Lles 2018

Roedd ein Cynllun Nawdd Llên er Lles yn cynnig cymorth ariannol a hyfforddiant i awduron ac artistiaid i ddyfeisio a chyflawni cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol gwreiddiol yn y gymuned. Caiff pob prosiect ei ddyfeisio gan awdur/artist gyda grŵp arbennig mewn golwg.

Cynllun Nawdd Llên er Lles 2019

Roedd ein Cynllun Nawdd Llên er Lles yn cynnig cymorth ariannol a hyfforddiant i awduron ac artistiaid i ddyfeisio a chyflawni cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol gwreiddiol yn y gymuned. Caiff pob prosiect ei ddyfeisio gan awdur/artist gyda grŵp arbennig mewn golwg.

Llên yn y Gymuned

Mae'n gwaith Llên yn y Gymuned yn cael ei gyflawni drw gydweithio’n uniongyrchol gyda sefydliadau partner, Awdurdodau Lleol, grwpiau cymunedol, gwasanaethau cymorth, awduron ac artistiaid i greu rhaglenni sydd wedi eu teilwra’n arbennig i adnabod anghenion ardaloedd penodol ac ymateb iddynt.

Ar y Dibyn

Dyma brosiect sy'n cynnig gweithdai creadigol ar gyfer unigolion sydd wedi profi dibyniaeth eu hunain, neu wedi cefnogi eraill, mewn awyrgylch diogel, cefnogol a heb unrhyw feirniadaeth.

Do You Get Me?

Ym mis Medi 2021, dechreuodd Eloise Williams, yr awdur llyfrau plant a Children’s Laureate Wales cyntaf erioed, ar antur gyffrous fel awdur preswyl am flwyddyn yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf.