Dewislen
English
Cysylltwch

Bardd Plant Cymru

Mae Bardd Plant Cymru yn rôl genedlaethol a gaiff ei dyfarnu i fardd Cymraeg bob dwy flynedd. Nod y rôl yw ysbrydoli a thanio dychymyg plant ar draws Cymru trwy weithdai a phrosiectau barddoniaeth amrywiol.

Ers ei sefydlu yn 2000, caiff y rôl ei gwobrwyo pob dwy flynedd i fardd Cymraeg sydd yn angherddol dros sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Bardd Plant Cymru wedi ymrwymo i: 

  • Ehangu mynediad plant a phobl ifanc at lenyddiaeth Gymraeg, yn benodol plant a phobl ifanc o gefndiroedd ymylol a chefndiroedd sydd yn cael eu tangynrychioli 
  • Gwella iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc drwy lenyddiaeth
  • Cynyddu mwynhad plant a phobl ifanc o lenyddiaeth
  • Grymuso plant a phobl ifanc drwy greadigrwydd

Y Bardd Plant Cymru presennol yw’r dramodydd ac ysgrifennydd o Gaerdydd, Nia Morais, a hi yw’r deunawfed bardd i gamu i’r rôl.

Cyhoeddwyd mai Nia oedd y Bardd Plant newydd ar y 1 Mehefin 2023 yn ystod Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri. Bydd Nia’n ymgymryd a’r gwaith am gyfnod o ddwy flynedd, hyd at Awst 2025

Mae Bardd Plant Cymru yn chwaer-brosiect i Children’s Laureate Wales, ac mae’r ddwy rôl yn cyfrannu tuag at fagu cenhedlaeth iachach, fwy creadigol a mwy amrywiol o ddarllenwyr ac awduron ar draws Cymru. 

Mae Bardd Plant Cymru yn cadw’n brysur drwy: 

  • Rhedeg gweithdai barddoniaeth oddi fewn a thu hwnt i’r dosbarth
  • Ysgrifennu cerddi comisiwn swyddogol i nodi achlysuron arbennig ac ymgyrchoedd sydd o bwys i blant a phobl ifanc
  • Creu adnoddau creadigol ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc
  • Eirioli dros leisiau plant a phobl ifanc Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol

Os oes gennych chi unrhyw ymholiad am brosiect Bardd Plant Cymru, cysylltwch drwy e-bostio barddplant@llenyddiaethcymru.org neu ffonio 029 2047 2266. Dilynwch Bardd Plant Cymru ar Twitter.