Dewislen
English
Cysylltwch
Tŷ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru – eich cartref oddi cartref i ddatblygu eich ysgrifennu a rhoi hwb i’ch gyrfa fel awdur.

Yn ein tŷ hyfryd yn Llanystumdwy, Gwynedd, cewch fynychu cyrsiau ac encilion gyda rhai o’r tiwtoriaid creadigol gorau yn eu meysydd mewn awyrgylch croesawgar ac ysbrydoledig. Mae ein rhaglen wedi ei chynllunio’n ofalus i’ch helpu i ddod â’ch straeon a’ch syniadau yn fyw.

Mae rhaglen gyrsiau 2025 wedi ei chyhoeddi – ewch i wefan Tŷ Newydd www.tynewydd.cymru i bori drwy’r rhaglen o gyrsiau ac encilion ysgrifennu.

Ers agor ein drysau yn 1990, mae miloedd o awduron wedi camu dros drothwy ein drws gwyrddlas eiconig.

Rydym yn croesawu grŵp newydd i’n cartref bob wythnos – yn gymysgedd unigryw o unigolion o Gymru, y Deyrnas Unedig, a phob cwr o’r byd. Maent yn treulio amser gyda’i gilydd dan arweiniad awduron proffesiynol, yn cymryd rhan mewn gweithdai a thiwtorialau un-i-un, yn mwynhau darlleniadau, ac yn ymhyfrydu yn awyrgylch hyfryd ac ysbrydoledig Tŷ Newydd. Mae cyfranogwyr yn rhoi help llaw yn y gegin, lle mae prydau cartref blasus yn cael eu paratoi gyda chynhwysion lleol, gan ein cogydd preswyl.

 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o fformatau i sicrhau fod ein rhaglen yn cynnig rhywbeth i bawb – cyrsiau undydd, penwythnos, a rhai sy’n rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae gennym gyrsiau yn y Gymraeg, y Saesneg, a rhai dwyieithog. Rydym hefyd yn cynnig ambell gwrs digidol, sy’n cynnig profiad Tŷ Newydd o gysur cartrefi’r awduron.

Mae’n rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o genres a themâu, yn cynnwys barddoniaeth, ffuglen, ffeithiol-greadigol, sgriptio, ysgrifennu am fyd natur, dylunio, adrodd straeon, yoga a mwy.

Mae rhai o’n cyn-diwtoraid yn cynnwys Carol Ann Duffy, Gillian Clarke, Pascale Petit, Paula Meehan, Mark Cocker, Menna Elfyn, Patrick McGuinness, Kaite O’Reilly, Imtiaz Dharker, Niall Griffiths, Daljit Nagra a Malachy Doyle.

“Waeth be’ mae neb yn ddweud, mae Tŷ Newydd yn rhewi amser. Y mae’n sugno’r trugareddau a’r pethau o’n bywyd bob dydd a’u toddi’n ddim.. Mae’n benthyg i ni lyfrgell sy’n toddi’r dydd yn nos. Ac yn eu lle, mae Tŷ Newydd yn rhoi i ni anadl i greu. Lle felly ydi o. A diolch amdano.”
– Karen Owen

Ein tŷ hanesyddol oedd cartref olaf y cyn Brif Weinidog David Lloyd George ac mae cyffyrddiadau cyfarwydd pensaer Portmeirion, Clough Williams-Ellis, a atgyweiriodd y tŷ iddo yn parhau i fod yn amlwg drwy’r safle. Mewn lleoliad tawel rhwng y mynyddoedd a’r môr, dyma’r man perffaith i encilio iddo a bod yn greadigol.

Am ragor o wybodaeth am Dŷ Newydd, a’r hyn sy’n digwydd yno, ewch i: www.tynewydd.cymru