Dewislen
English
Cysylltwch

Cynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru 2022-2027

Mae llenyddiaeth yn ein cysylltu ni â’n gilydd ar adeg o raniadau cynyddol ac ansicrwydd byd-eang. Mae’r straeon y byddwn ni’n eu darllen, yn eu clywed, ac yn eu dweud wrth ein gilydd yn ein helpu i ddehongli cymhlethdodau ein bywydau ac i wneud pen a chynffon o’n byd.
Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen grym llenyddiaeth arnon ni yn ein bywydau.

Mae’r cynllun hwn yn cyflwyno ein huchelgais o greu Cymru lle mae llenyddiaeth yn cynrychioli ein lleisiau amrywiol, yn gefn i’n llesiant, ac yn codi ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd.

Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i wireddu ein gweledigaeth o Gymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, yn gwella, ac yn cyfoethogi bywydau.