Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru

 

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen 12 mis o hyd sy’n darparu cyfleoedd i awduron sydd heb gynrychiolaeth deg yn y sector llenyddol i ddatblygu eu crefft a’u dealltwriaeth o’r diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi.

Bydd ceisiadau ar gyfer rownd nesaf Cynrychioli Cymru yn agor yn ystod Haf 2024. 

Mae Cynrychioli Cymru yn gam pwysig yn ymdrechion Llenyddiaeth Cymru i weddnewid diwylliant llenyddol y wlad. Y nod yw creu diwylliant sy’n gwbl gynrychioladol o gymunedau amrywiol Cymru, a sicrhau bod gan Gymru wastad ei chyflenwad o unigolion talentog, amrywiol a fydd yn cael eu cydnabod ledled y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt.

Mae’r rhaglen yn cynnwys gwobr ariannol o hyd at £3,300 i helpu awduron gymryd amser i ysgrifennu, mynychu sesiynau hyfforddi a digwyddiadau llenyddol ac i’w roi tuag at gostau teithio. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys mentora un-i-un; gweithdai a sgyrsiau misol; yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio, gwneud cysylltiadau newydd ac adeiladu perthnasau gydag awduron eraill. Yn ystod y flwyddyn bydd cyfleoedd i gwrdd ag arbenigwyr yn y diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt.

Wedi i’r rhaglen 12 mis ddod i ben, bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r awduron a gyda phartneriaid eraill i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a’r cyngor sydd ei angen arnynt i gyrraedd eu hamcanion personol.

Caiff rhaglen Cynrychioli Cymru ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Sefydliad Foyle.