Mae llwyfan bach y Llannerch yn anffurfiol ac agos-atoch.

Lleolir y Llannerch Gudd yn ardal Crefft yn y Bae.  Mae’r gweithgareddau i gyd yn rhad ac am ddim.

 

Dyma’r lleoliad perffaith i ddod i fwynhau sesiynau o bob math sy’n cyfuno amryw o genres ac yn gyfle i glywed am rai o’r datblygiadau diweddaraf mewn llenyddiaeth Gymraeg.

Trefnir gan yr Eisteddfod.

Noddir gan Brifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Dydd Sadawrn 4 Awst

12:00 Llên a Fi: Anni Llŷn yn sgwrsio gydag Ani Saunders, Buddug Wyn Humphreys ac Owain Llŷr.

Dydd Sul 5 Awst

12:00 Ymchwil Llenyddol Adrannau Cymraeg Cymru.

Dydd Llun 6 Awst

10:00 Dewch i gynganeddu

Yr Acen: Iwan Rhys.

11:00 Clwb Darllen: Trafodaeth ar y ddrama Llwyth gan Dafydd James (Theatr y Sherman a Theatr Genedlaethol Cymru). Dan ofal Stonewall Cymru #masarymaes trefnwyd gyda chymorth Llenyddiaeth Cymru.

 

12:00 Lansiad Cylchgrawn Barddas yng Nghwmni Twm Morys a’i westeion.

Dydd Mawrth 7 Awst

10:00 Dewch i gynganeddu

Croes: Emyr Davies.

11:00 Clwb Darllen: Clwb Darllen i bobl ifanc bl.7-9: Trafodaeth ar Fi a Joe Allen gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa) neu dewch draw i drafod unrhyw lyfr o’ch dewis, trefnwyd gyda chymorth Llenyddiaeth Cymru.

12:00 Sgwrs gydag enillydd y Goron os oes un.

14:00 Nation.Cymru Llenyddiaeth ffantasi a gwyddonais yn y Gymraeg: Elidir Glyn, Miriam Elin Jones, Joanna Davies, Ifan Morgan Jones yn holi.

Dydd Mercher 8 Awst

10:00 Dewch i gynganeddu Llusg: Robert Powell.

11:00 Clwb Darllen: Clwb Darllen i Ddysgwyr Lefel Sylfaen: Trafodaeth ar Y Fawr a’r Fach – straeon o’r rhondda gan Siôn Tomos Owen (Y Lolfa) trefnwyd gyda chymorth Llenyddiaeth Cymru.

Dydd Iau 9 Awst

10:00 Dewch i gynganeddu Traws: Arwyn Groe.

11:00 Clwb Darllen: Trafodaeth ar y cyfrolau gyrhaeddodd Rhestr Fer Ffuglen Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018: Gwales, Catrin Dafydd (Lolfa); Fabuwla, Llŷr Gwyn Lewis (Y Lolfa); Hen Bethau Anghofiedig, Mihangel Morgan (Y Lolfa). Dan ofal Clwb Darllen y Cornwall. Trefnwyd gyda chymorth Llenyddiaeth Cymru.

12:00 Sgwrs gydag enillydd y Fedal Ryddiaeth os oes un.

Dydd Gwener 10 Awst

10:00 Dewch i gynganeddu Sain: Geraint Roberts.

11:00 Clwb Darllen: Trafodaeth ar y gyfrol Treiglo gan Gwyneth Lewis (Cyhoeddiadau Barddas). Dan ofal Llyfrgell Ganolog Caerdydd, trefnwyd gyda chymorth Llenyddiaeth Cymru.

12:00 Blas ar gyfrol newydd Bragdy’r Beirdd, Barddas.

Dydd Sadwrn 11 Awst

14:00 Sgwrs gydag enillydd y Gadair os oes un.

Dyma amserlen lawn y Llannerch Gudd.