Dewislen
English
Cysylltwch
Nod menter Awdur Ieuenctid Cymru oedd ysbrydoli doniau ysgrifennu a gwella sgiliau llythrennedd a chyfathrebu ymysg pobl ifanc. Trwy ddefnyddio amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, datblygwyd y prosiect i ddod â’r genhedlaeth nesaf i gyswllt â llenyddiaeth mewn dulliau newydd ac arloesol.

Cafodd menter Awdur Ieuenctid Cymru ei rhedeg gan Llenyddiaeth Cymru rhwng 2011-2018. Nod y fenter oedd ysbrydoli hunanfynegiant a chynyddu sgiliau llythrennedd a chyfathrebu ymysg pobl ifanc 13-25 oed.

Lansiwyd y fenter ym mis Hydref 2011 gyda phenodiad Catherine Fisher i’r rôl, ac fe ddatblygwyd y fenter gan Martin Daws oedd yn y rôl rhwng 2013 – 2016. Sophie McKeand oedd Awdur Ieuenctid Cymru am y cyfnod 2016 – 2018.

Yn 2019 cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru y byddai rôl lysgenhadol newydd Children’s Laureate Wales yn cymryd lle Awdur Ieuenctid Cymru, a chafodd yr awdur plant poblogaidd o Sir Benfro, Eloise Williams, ei chyhoeddi fel y Children’s Laureate Wales cyntaf erioed yn dilyn galwad gyhoeddus i awduron fynegi eu diddordeb yn y rôl. Mae Children’s Laureate Wales yn gweithio ochr yn ochr â’i chwaer-brosiect Cymraeg Bardd Plant Cymru, gan weithio’n bennaf gyda phlant 5-14 oed.

 

Am Sophie McKeand

Mae Sophie McKeand yn fardd o Wrecsam sydd â phrofiad helaeth yn cynnal gweithdai. Enillodd wobr Innovation in Poetry Out Spoken yn 2015, fe gyrhaeddodd restr hir National Poetry Competition y Poetry Society, a bydd yn fardd preswyl yng ngŵyl Focus Wales yn 2016. Mae Sophie wedi perfformio mewn nifer o wyliau a digwyddiadau, ac ym mis Hydref 2015 cyflawnodd daith o ddigwyddiadau o amgylch Cymru i gyd-fynd â chyhoeddiad ei phamffled barddoniaeth newydd, Hanes.

Mae hi’n awdur ac yn gynhyrchydd  nifer o brosiectau TEAM National Theatre Wales ac yn arwain gweithdai rheolaidd ar ran Llenyddiaeth Cymru yn ogystal â sefydliadau amrywiol megis Cyngor Celfyddydau Cymru, Age Cymru ac Oriel Wrecsam. Mae hefyd yn Ymarferwr Creadigol gyda Chynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Nôl i Ein Prosiectau