Categori /
Taith Lenyddol
Taith Gwch ar hyd y Fenai
Taith Gwch ar hyd y Fenai: O Fiwmares i Bont Borth
Dydd Iau 24 Mai 2018 4.30 pm – 5.45 pm
Dewch i ganu shantis a gwrando ar straeon y môr yng nghwmni’r beirdd a’r cerddorion amryddawn Gwyneth Glyn a Twm Morys. Byddwn yn cychwyn o Gei Biwmares, Ynys Môn, LL58 8BS
Pris tocyn: £7
I archebu tocyn, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org
Trefnir y digwyddiad hwn yn arbennig i rai dros 50, ond bydd croeso cynnes i bawb. Trefnir y digwyddiad hwn gan Llenyddiaeth Cymru fel rhan o, a gyda nawdd hael gan Ŵyl Gwanwyn, a gynhelir ledled Cymru ym mis Mai bob blwyddyn i ddathlu creadigrwydd ymhlith pobl hŷn.