Fel rhan o gynllun Llenyddiaeth er Iechyd a Lles a ariennir gan Gyngor Gwynedd, trefnodd Llenyddiaeth Cymru fod Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn, yn mynd draw i gynnal gweithdai yn Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth dros gyfnod o chwe wythnos. Bu naw person ifanc a thri aelod o staff yn cymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 2016. Bu’r disgyblion yn ysgrifennu barddoniaeth ar y thema ‘Fi fy hun’ gan archwilio eu teimladau ac emosiynau gydag Anni a chael hwyl dda iawn ar greu llu o gerddi gwahanol. Bu Morfudd Hughes, sy’n ymarferydd symud a llais yn cydweithio gydag Anni ar y prosiect a bu’r ddwy yn gweithio ar ddatblygu sgiliau’r bobl ifanc drwy gyfrwng gemau syml a gwisgo wigiau a dillad gwahanol er mwyn chwarae rôl.
Daeth criw o’r bobl ifainc draw i Dŷ Newydd ar ddiwedd y cwrs i gael te parti yng nghwmni neb llai na Dewi Pwsfu’n eu diddanu gyda caneuon, cerddi a jôcs.