Yn ystod blwyddyn academaidd 2016-17, derbyniodd Llenyddiaeth Cymru grant hael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri fel rhan o gynllun cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf. Gofynwyd i’r awduron nodedig Gwion Hallam, Sian Northey a Manon Steffan Ros weithio gyda 21 o ysgolion gan arwain gweithdai ysgrifennu creadigol, a cafodd y disgyblion y cyfle i ymweld â Gwasanaethau Archif Gwynedd i ymchwilio’n anwl i hanes unigolion lleol a chwaraeodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf
Ysgrifennodd y disgyblion lythyrau o heddwch yn lleisiau’r cymeriadau hyn, a cafodd y gwaith ei arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017.
Cafodd rhai o’r llythyrau hyn eu gosod mewn capsiwl amser a blanwyd yng ngardd Tŷ Newydd i genedlaethau’r dyfodol ddod o hyd iddo.