Wedi ei seilio ar ein prosiect hynod lwyddiannus, ‘Slam Cymru’, penodwyd capten barddoniaeth slam i bob Ysgol – Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru, oedd capten tîm Gartholwg, y Prifardd Aneirin Karadog oedd capten Cwm Rhymni a Phrifardd Eisteddfod yr Urdd, Gwynfor Dafydd oedd capten Gwynllyw. Roedd y beirdd wedi helpu’r disgyblion i gyfansoddi cerddi ar gyfer y rownd derfynol a ymgorfforai ysbryd cynhyrchiad Macbeth, Theatr Genedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd y rownd derfynol yn Neuadd Fawr atmosfferig Castell Caerffili, ble llwyfannwyd cynhyrchiad Macbeth, Theatr Genedlaethol Cymru. Cafwyd prynhawn llawn creadigrwydd ac angerdd a pherfformiwyd cerddi yn ymdrin â themâu hawliau cyfartal, cyfalafiaeth a thrachwant. Yn ogystal â hyn cafwyd cyfle i glywed y capteiniaid yn perfformio. Y beirniaid oedd y bardd a’r perfformwraig clare e. potter a Rufus Mufasa ynghyd â Fflur Thomas, Cyfarwyddwr Cyswllt y Theatr Genedlaethol.
Dywedodd Aneirin Karadog, a oedd hefyd yn cyflwyno’r ymryson: “Daeth y profiad o fod yn rhan o Slam farddol yng Nghastell Caerffili â barddoniaeth yn fyw, a gobeithio fod y beirdd ifanc wedi teimlo hynny, ac nad dim ond rhywbeth i’w ddarllen ar bapur yw cerdd.”
Wedi gornest agos, Ysgol Cwm Rhymni ddaeth i’r brig gan gipio’r Castell. Gallwch weld y perfformiad yma:
Yn wobr i’r ysgol fuddugol cynhaliwyd gweithdy ysgrifennu creadigol pellach gan Awdur Ieuenctid Cymru, Sophie Mckeand.