Ymateb: amser ysgrifennu creadigol yng nghwmni Kate Pawsey

Ymunwch â Kate Pawsey i ddefnyddio ysgrifennu fel dull archwiliol mewn ymateb i’n harddangosfa bresennol Haptic/Tacit: In Search of the Vernacular. Bydd Kate yn cynnig ffordd o ddyfnhau, ehangu ac agor profiad y gwrthrychau yn yr oriel. Bydd hi’n annog y defnydd o eiriau creadigol, adfyfyriol a mynegiannol i arafu, i feddwl, i deimlo ac i synhwyro’r ffyrdd y mae’r arddangosfa yn ein hannog a’n symbylu ni, ei gwylwyr.
Mae Kate Pawsey yn awdur a sylfaenydd Writing Time, sef gwasanaeth sy’n galluogi awduron a darpar awduron i archwilio eu gwaith drwy gyfrwng fframwaith ysgogol sydd wedi’i strwythuro. Mae ganddi MSc mewn ysgrifennu creadigol at ddibenion therapiwtig (CWTP) gan y sefydliad hyfforddi seicotherapi – Metanoia Institute.
£10 y person, te a bisgedi, 16 oed a hŷn – rhaid archebu lle ymlaen llaw – Ffoniwch yr oriel 01267 222775 – Ni fedrwn ddychwelyd taliadau.