Categori /
Digwyddiad
Mererid Hopwood ar y Llwyfan Llesiant
Bydd Mererid Hopwood yn trafod ei phreswyliad diweddar gyda Thîm Gofal Lliniarol Ceredigion gyda Bethan Jones Parry o Byw Nawr ar y Llwyfan Llesiant fel rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol ar y 8fed o Awst. Bydd Mererid hefyd yn darllen rhai o’r cerddi a ddeilliodd o’r preswyliad, sy’n ymdrin â thema diwedd oes a byw nawr.