Mae’r wefan iechyd meddwl, sef ‘meddwl.org’, sy’n darparu cyngor, a’r lle i rannu profiadau yn Gymraeg yn cynnal digwyddiad yn y Babell Lên ddydd Gwener y 10fed am 12.45pm, sef ‘Hel Meddyliau’. Bwriad y sesiwn yw i drafod effaith llenyddiaeth ar iechyd meddwl unigolion, hynny yw sut mae llenyddiaeth yn gallu cael effaith positif neu negyddol ar iechyd meddwl yr ysgrifennwr a darllenwyr.