
Cabaret Pontio yn cyflwyno: Bardd Copy
Yn dilyn llwyddiant ysgubol eu sioe gyntaf ym Mehefin 2018, mae Bardd yn ôl gyda dwy set ryfeddol lle maent yn dod ag elfennau o gerddoriaeth fyd-eang ynghyd yn eu dull unigryw eu hunain.
Gan gynnwys Barddoniaeth Lafar Martin Daws (Bardd Pobl Ifanc Cymru 2013-16)ac Emceeing Mr Phormula (Pencampwr Lwpio Dwbl Cymru 2016/18), mae Bardd yn seilio eu synau arbennig ar gerddoriaeth ailadroddus Kalimba Martin, sy’n efelychu’r delyn, ac athrylith dechnegol Mr Phormula fel beatbox dynol a lwpiwr byw. O’r sylfaen Hip Hop hon, mae cerddgarwch byd-eang y cydweithio hwn yn cael ei ymestyn i gynnwys Jas, Gwerin, Afro-Funk a Drwm a Bas gan offerynwyr dawnus sy’n feistri ar sawl offeryn, sef Neil Yates (Trwmped / Bas Trydan) a Henry Horrell (Gitâr / Allweddellau / Telyn).