Ar ddiwedd Mehefin/ dechrau Gorffennaf, bydd tri diwrnod agored gyda chyfle i ddefnyddio’r llyfrgell, awgrymu llyfrau ar gyfer y casgliad, neu gyfle i fusnesa a gweld be ‘di be. Er bod y llyfrgell fel arfer ar agor ar ddyddiadau arddangosfeydd, mae’r diwrnodau agored yma yn gyfle, dros baned, i ddarganfod sut gellir defnyddio’r adnodd.

Ynghyd â’r diwrnod agored ar y 6ed o Orffennaf, bydd cyfres o gyflwyniadau gan artistiaid ynghylch archifau, dad-sefydliadoli, casgliadau a’n llyfrgelloedd coll.

Artistiaid: Sadia Pineda Hameed, Beau W. Beakhouse, Radha Patel, Adeola Dewis, Rabab Ghazoul & Sarah Younan.