Ganwyd Eloise yng Nghaerdydd, treuliodd ei phlentyndod yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf ac mae bellach yn byw yn Saundersfoot, Sir Benfro. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Coed yr Esgob ac Ysgol Y Pant, cyn mynd i astudio Drama yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Actio yn Guildford School of Acting, ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Bu’n gweithio fel actor ac ymarferydd creadigol am dros ddegawd cyn dod yn awdur plant.
Enillodd ei nofel, Gaslight (Firefly Press, 2017) – a ysgrifennwyd gyda chefnogaeth Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru – Lyfr Pobl Ifanc y Flwyddyn Wales Arts Review 2017, Gwobrau Llyfrau YBB 2018, a chyrhaeddodd restr fer Gwobrau Tir na nOg 2018. Cyrhaeddodd Seaglass (Firefly Press, 2018) restr fer Gwobrau Tir na nOg 2019 hefyd, a’r North East Book Awards 2019. Cyhoeddodd ei nofel ddiweddaraf i bobl ifanc, Wilde (Firefly Press), yn 2020.
Yn siaradwr rheolaidd mewn gwyliau a digwyddiadau, mae hi’n defnyddio ei sgiliau drama i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn llenyddiaeth plant ac erbyn hyn mae hi ar lwyfan llawer yn fwy nag y buodd hi erioed fel actor proffesiynol.
Mae hi hefyd yn arweinydd gweithdai poblogaidd a deinamig. Yn ei hamser hamdden, mae’n casglu gwydr môr a straeon arswyd, yn canu’n uchel, yn cerdded ar y traeth gyda’i chi Watson Jones, yn nofio yn y môr ac yn dathlu natur a bywyd gwyllt ym mhob ffordd posib.
“Dwi wedi bod wrth fy modd straeon erioed. Mae’r profiad o ymgolli’ch hun mewn stori dda yn hudol. Mae straeon yn ein cysylltu, yn rhoi empathi a dealltwriaeth inni, yn ymestyn ein hymennydd a’n dychymyg, yn gadael inni deithio’r byd a phrofi’r rhyfeddodau mwyaf.
“Mae llenyddiaeth plant yn ffynnu ac ni allai fod amser mwy cyffrous i fod yn rhan o’i dwf yma yng Nghymru. Dwi’n teimlo’n gryf bod cysylltiad rhwng llyfrau plant a’r gobaith dwi’n ei deimlo bob tro dwi’n cerdded i mewn i ystafell ddosbarth. Dwi’n grediniol y bydd darllenwyr ifanc yn gwneud ein dyfodol yn ddisglair ac mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o hynny.”
– Eloise Williams
Mewn llythyr agored i blant Cymru, pwysleisiodd Eloise cymaint o anrhydedd oedd ymgymryd â’r rôl hon; sut y bydd yn gwneud ei gorau glas i helpu plant Cymru i ddod o hyd i’r straeon sy’n bwysig iddyn nhw; yn ymgyrchu fel eu bod nhw’n gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli’n dda mewn llenyddiaeth; ac yn bwysicaf oll, bod eu lleisiau yn bwysig. Gallwch ddarllen ei llythyr yn llawn yma.
Dear children of Wales,
I’m very proud to be your laureate.
I’ve heard some of your stories and they are vibrant, exciting, unique, spellbinding and brilliant. I want to hear more.
I want you to feel empowered by words, so that you can be the authors and storytellers of today and tomorrow.
I want you to feel passionate about reading for pleasure. I want you to discuss books, write your own stories, visit libraries, browse bookshops, go to literature festivals, give opinions, ask questions. I want you to use your voices and your words.
I promise that I will do everything I can to listen to you and to represent you well.
I will do my very best to help you find the right stories for you.
I will push for you to see yourselves well represented in literature and for you to have access to a wide choice of books.
Your voices matter. You matter. I look forward to hearing from you.
Eloise.
Children’s Laureate Wales (2019-2021)