Mae Ymasiad Cerddorol Rhyngwladol Dwyieithog ac Unigryw Bardd yn mynd â’r gynulleidfa ar daith eiriol o Wreiddiau Barddonol Cymru i Ddisgo Ffync Rhydd lle mae pawb yn Un. Mewn cymysgedd o MC virtuoso a Bîtbocsio, Lwpio Byw arloesol, Kalimba Trydanol, Fiolin Gwerin, Organ Jazz, Gitar Blues a Barddoniaeth Gair Llafar, mae tri aelod Bardd yn cymysgu eu swn trwy gariad unol o guriadau gwych, geirio anhygoel a cherddoriaeth rhagorol o bob math.

Yr artist Gair Llafar gwobrwyedig, Martin Daws (Awdur Ieuenctid Cymru 2013-16), yr MC, Bitbocsiwr, Lwpiwr Byw arwrol, Mr Phormula (Pencampwr Bitbocsio Cymru ddwywaith) a’r aml-offerynnwr anhygoel Henry Horrell (Gitar/Allweddell/Fiolin) ydi Bardd.

Mae Bardd yn dweud mai eu nod ydi “dod a be’ ydan ni ynghyd i ffurfio un swn hardd: ein gwahanol offerynnau, ein hieithoedd gwahanol, ein harddulliau cerddorol gwahanol, mae o i gyd yno i ni weithio drwy’n gwahaniaethau efo’n gilydd.”