Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd Her 100 Cerdd yn dychwelyd unwaith eto eleni, a hynny am y seithfed tro. Yn unol â’r arfer, mae pedwar bardd wedi eu herio i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr.

Y pedwar dewr eleni yw Beth Celyn, Dyfan Lewis, Elinor Wyn Reynolds a Matthew Tucker.

Bydd gofyn i bob un o’r pedwar bardd ysgrifennu o leiaf un gerdd bob awr i gyflawni’r Her 100 Cerdd mewn da bryd. Mae timoedd y gorffennol wedi cyrraedd y nod gydag eiliadau’n unig yn weddill. Tybed a fydd criw 2019 yn llwyddo i ddilyn eu hesiampl a chyflawni her farddonol fwya’r flwyddyn?

Unwaith eto eleni, caiff y cyhoedd eu gwahodd i ymuno yn yr Her drwy awgrymu testunau a gyrru geiriau o anogaeth dros y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y pedair awr ar hugain.

Ers ei sefydlu yn 2012, mae’r Her wedi cynnig cipolwg ar y Gymru sy’n bodoli ar y diwrnod hwnnw – ei gwleidyddiaeth, ei diddordebau, ei newyddion a’i diwylliant.

 

Ymysg y 500 o gerddi a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd mae cerddi serch a cherddi dychan; cerddi ar gerddoriaeth a cherddi ar y cyd; cerddi am borc peis, babanod newydd a hyd yn oed ffrae epig rhwng John ac Alun a’r Brodyr Gregory!

Pedair wal greadigol Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd fydd cartref y beirdd dros gyfnod yr Her. Caiff y ganolfan ei rhedeg gan Llenyddoaeth Cymru, ac mae’r awen yn cuddio ym mhob twll a chornel o’r tŷ.

Bydd y tîm yn cychwyn arni am hanner dydd ar ddydd Mercher 2 Hydref, ac yn rhoi’r atalnod llawn ar y gerdd olaf cyn hanner dydd, dydd Iau 3 Hydref. Ar y diwrnod hwnnw, 3 Hydref, fe gynhelir Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, dathliad blynyddol o farddoniaeth a phopeth barddonol. Bydd y cerddi oll yn cael eu cyhoeddi ar-lein ar www.llenyddiaethcymru.org yn syth ar ôl eu cwblhau er mwyn i’r cyhoedd gael dilyn eu cynnydd.

Ymunwch yn yr Her 100 Cerdd gyda cheisiadau neu anogaeth trwy ddefnyddio’r hashnod #Her100Cerdd ar Twitter, neu trwy yrru neges at Llenyddiaeth Cymru ar Facebook neu dros e-bost at post@llenyddiaethcymru.org. Bydd dolen i’r cerddi yn cael eu postio fesul un ar gyfrif Twitter @LlenCymru ac ar ein tudalen Facebook:   www.facebook.com/LlenCymruLitWales