Gŵyl Ein Llais yn y Byd
Ymunwch â ni ar gyfer cyfres o sgyrsiau, paneli trafod a pherfformiadau i ddathlu’r Gymraeg fel iaith hyfyw ymhlith teulu ieithoedd y byd fel rhan o Flwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO 2019.
Bydd y themâu trafod yn cynnwys y canlynol, gan amlygu profiad o Gymru a gwledydd eraill:
- dysgu a defnyddio iaith
- iaith, llên, y celfyddydau a’r cyfryngau
- polisi a chynllunio iaith
Anelir y digwyddiad at ymarferwyr o sawl maes – o Gymru a thu hwnt.
Caiff y Gymraeg a’r Saesneg ill dwy eu defnyddio yn yr Ŵyl i wahanol raddau. Os nad ydych yn medru’r Gymraeg a’r Saesneg, gofynnwn i chi nodi hyn wrth gofrestru er mwyn hwyluso trefniadau cyfieithu ar y pryd ar gyfer y gwahanol sesiynau.