
Categori /
Barddoniaeth, Digwyddiad, Lansiad Llyfr
Lansiad: Carthen Denau gan Rhys Iorwerth
Cyhoeddiadau’r Stamp a Palas Print sy’n cyflwyno Manon Awst a Rhys Iorwerth i lansio Carthen Denau yn Llety Arall, Caernarfon. Y Stamp sy’n gyfrifol am gyhoeddi’r bamffled newydd hon sy’n ymateb i weithiau’r Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019. Ceir ynddi gerddi gan y bardd, yn ogystal ag enghreifftiau o’r celf a ysbrydolodd y gyfrol, gan gynnwys gwaith Daniel Trivedy, enillydd y Fedal Aur am Gelf Gain yn yr Eisteddfod eleni.