Dewislen
English
Cysylltwch

Gall lenyddiaeth gael effaith gadarnhaol sylweddol ar iechyd a llesiant. Trwy gefnogi a hyrwyddo’r gwahanol ffyrdd y gall wneud hynny, rydym yn cyfrannu’n gadarnhaol at iechyd a llesiant y genedl ac yn gwella bywydau pobl yng Nghymru.

Ar sail ein dealltwriaeth fod gan lenyddiaeth y grym i wella a gweddnewid bywydau, a’r angen i gynnal gweithgareddau lle y byddant yn cael yr effaith mwyaf, mae Iechyd a Llesiant yn un o’n 3 Blaenoriaeth. Nid math o weithgaredd ydyw, ond thema sy’n amlygu ei hun trwy ein holl waith, ac yn ein gwaith-ar-y-cyd a’n gwaith hwyluso.


Cip ar weithgaredd: Ffrindiau Darllen Cymru

 

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cydlynu Ffrindiau Darllen yng Nghymru. Mae Ffrindiau Darllen yn rhaglen gyfeillio newydd a ddyfeisiwyd gan The Reading Agency ac a ariannir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. O aeaf 2019 ymlaen, mae Llenyddiaeth Cymru’n gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Llyfrgelloedd Aura yn Sir y Fflint, a Llyfrgelloedd Caerdydd, i gyflwyno Ffrindiau Darllen mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Cymru.

Yn ôl y adroddiad comisiwn Demos, ‘A society of readers’, erbyn 2030 mi fydd dros 1.3 miliwn o bobl gyda Dementia, 11 miliwn o bobl yn byw eu hunain, a dros 7 miliwn dros 60 oed yn dioddef o Unigrwydd, mae disgwyl i hyn gostio tua £2 filiwn i’r economi, a hynny yn ychwanegol i gostau iechyd a gofal.

Nod y prosiect yw grymuso, ymwneud â, a chysylltu pobl hŷn fregus ac ynysig, pobl â dementia, a gofalwyr, gan ddechrau sgyrsiau trwy ddarllen. Fel y dangoswyd yn adroddiad Demos, mae’r prosiect hwn yn pontio’r bwlch rhwng pobl, yn adeiladu perthnasau, ac yn gwella iechyd a llesiant rheiny sydd yn cymryd rhan.

Nododd 88% o’r rhai a fynychodd bod y rhaglen wedi cynyddu eu cyfloedd i gael cyswllt cymdeithasol, gydag yr un faint o bobl yn credu bod y rhaglen wedi ychwanegu ‘pwrpas’ i’w hwythnos.

Rhwng Medi 2018 ac Awst 2019, roedd 139 o gyfranogwyr, mewn 93 sesiwn wedi ymwneud â Ffrindiau Darllen yng Nghymru, gan ddod a’r cyfanswm i 90 awr o weithgaredd yn ystod y cyfnod. Roedd 128 o’r rhain yn mynychu cartref gofal (preswylwyr neu ymwelwyr dydd), gan fod, yn ôl sawl ymchwil, dros hanner o breswylwyr cartrefi gofal sydd heb niwed gwybyddol yn teimlo’n unig. Roedd y gweddill wedi eu lleoli yn Ysbyty Singleton. Gall y wardiau fod yn lle prysur ond unig, ac felly mae Ffrindiau Darllen wedi bod yn hollbwysig wrth gefnogi cleifion i “ddod o’u cregyn a chael sgwrs am rywbeth heblaw am feddyginiaeth”, yn ôl nyrs ar Ward 7.

Gan weithio mewn partneriaeth â changen Gwirfoddoli gan Fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, Discovery, a rhaglen wirfoddoli’r ysbyty, mae Ffridiau Darllen wedi gwella sgiliau 32 o wirfoddolwyr drwy gynnal sesiynnau hyfforddi sy’n cynyddu eu gallu i ddiogelu unigolion bregus. Mae’r rhaglen hefyd wedi cefnogi mewnbynnu fframweithiau gwirfoddoli mewnol mewn rhai sefydliadau partner.

Er mwyn sicrhau y gall y rheiny sydd heb fynediad at drafnidiaeth gael budd o’r rhaglen hefyd, cymrodd 11 o unigolion ran mewn cynllun ymweliadau un-i-un yn eu cartrefi. Derbyniodd Jennifer Summers, un o ffrindiau darllen ardal Cymru ymweliadau cyson gan un o’r gwirfoddolwyr, ac un o’r trigolion lleol, Jasmine Kelly. Wrth siarad am ei phrofiad o’r rhaglen, dywedodd Jennifer:

“Mae gymaint wedi ei golli o ran rhyngweithiad cymdeithasol, ac felly mae cael rhywun i gymryd lle’r grŵpiau darllen yr oeddwn yn arfer eu mynychu yn amhrisiadwy.”

Jennifer Summers, Ffrind Darllen

Ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun ehangach ar wefan Ffrindiau Darllen neu gallwch gofrestrui dderbyn y cylchlythyr pwrpasol, neu cysylltwch â ni.

Nôl i Ein Heffaith