
Categori /
Barddoniaeth, Plant / Pobl Ifanc
Sesiwn Farddoniaeth gyda Mei Mac yn Yr Ysgwrn
Heb os nac oni bai mae Hedd Wyn yn un o feirdd mwyaf eiconig Cymru a phwy gwell i drafod ei hanes a llunio darn o farddoniaeth amdano na bardd arall? Mae’r Prifardd Meirion MacIntyre Huws neu ‘Mei Mac’ fel mae hefyd yn cael ei adnabod am ddod i’r Ysgwrn i gynnal gweithdai barddoni arbennig.
Natur y sesiwn fydd ymweld â’r Ysgwrn yng nghwmni un o’r staff, gyda Mei wrth law i ysbrydoli a thanio’r dychymyg. Yna toriad byr cyn bwrw ati i lunio cerdd. Wrth hel geiriau a syniadau caiff y plant, yn ogystal ag odli, gyfle i weld Mei’n cartŵnio hefyd.
Sesiwn boreau Mercher yr 11eg, 18fed neu’r 25ain o Fawrth
Sesiwn boreau Iau y 12fed, 19eg neu 16ain o Fawrth
Manylion llawn yma.