Egni Cymwynas | Cerdd Gomisiwn gan Ifor ap Glyn

Mae’r gerdd yn rhan o oriel ar-lein newydd gan Senedd Cymru, sef portreadau o’r arwyr cymunedol wedi eu henwebu gan Aelodau o’r Senedd.
Mae’r portreadau yn cael eu cyhoeddi yn ddyddiol ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Ymweld â’r Senedd (Instagram y Senedd, Facebook y Senedd, Twitter y Pierhead) ym mis Rhagfyr 2020.
Gwahoddwyd Aelodau o’r Senedd i enwebu hyd at dri hyrwyddwr cymunedol o’u hetholaeth neu rhanbarth i fod yn rhan o’r oriel. Mae’r rhain yn cynnwys unigolion, grwpiau, gweithwyr allweddol a busnesau, sydd wedi gwneud pethau anghyffredin yn ystod y cyfnod Covid-19 i helpu pobl llai breintiedig, ac i helpu i gadw cymunedau’n gadarn.
Comisiynwyd Egni Cymwynas gan Llenyddiaeth Cymru a Chomisiwn y Senedd.
Egni Cymwynas
(i gydfynd ag Oriel ‘Arwyr Cymunedol mewn cyfnod COVID’
yn y Senedd, Tachwedd – Rhagfyr 2020)
Mae stadiwm ein gwlad yn dywyll
ond yn bair o bosibliadau…
(er nad oes band am chwarae)
Ymhlith y rhesi gwag, mae adlais torf
yn chwyddo’n gytgan;
a gwreichion hen haelioni
yn ffaglu’n fil o fflamau mân.
Peth felly yw egni cymwynas –
y trydan cudd, ymhob cwr o’n gwlad,
sy’n nôl ffisig,
neu’n gwneud neges;
sy’n rhannu sgwrs
fel rhosyn annisgwyl;
sy’n gylch,
pan freichiwn ein gilydd
o bell…
Ac wrth i ni anturio
drwy diroedd newydd ein hen gynefin,
yr ail-fapio yw ein her;
ond er chwithdod
cofleidiau rhithiol,
a diflastod
pob clo dros dro,
mae gwefr mewn cymwynas o hyd:
– fel cyffwrdd yr haul â blaen bys! –
a llewyrchwn fel gwlad yn ei sgîl…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru