Dewislen
English
Cysylltwch
Cael asiant! Cyhoeddi llyfr! Ennill Gwobr! Dim ond rhai o’r pethau gwych mae awduron sydd wedi bod yn rhan o Cynrychioli Cymru wedi llwyddo eu gwneud.

Gwyliwch y fideos isod i glywed yr awduron yn trafod eu profiadau hwy o’r rhaglen.

 

 

Mae nifer o’r awduron sydd wedi cymryd rhan yn Cynrychioli Cymru wedi defnyddio’r cyfle fel carreg sarn wrth weithio ar ehangu eu gyrfa.

  • Mae sawl awdur wedi sicrhau asiant. Mae asiantaethau yn cynnwys Curtis Brown, The Good Literary Agency, Bird Literary Agency a mwy.
  • Mae blodeugerddi o waith y carfanau wedi’u cyhoeddi gan Lucent Dreaming, gan gynnwys (un)common: anthology of new Welsh writing yn 2024 a Maps and Rooms yn 2022.
  • Mae pedwar awdur (Taz Rahman, Lesley James, Natasha Gauthier a Si Griffiths) yn ymddangos yn Afonydd: Poems for Welsh Rivers / Cerddi Afonydd Cymru (2025)
  • Mae awduron wedi mynd ymlaen i olygu blodeugerddi eu hunain: Durre Shahwar Mughal yw cyd-olygydd Gathering, Women of Colour on Nature (404INK, 2023); Cyd-olygodd Bethany Handley, Megan Angharad Hunter, a Sioned Erin Hughes Beyond/Tu Hwnt: Blodeugerdd o Ysgrifenwyr Cymraeg Byddar ac Anabl (Lucent Dreaming, 2025); Golygodd Nia Morais y flodeugerdd o leisiau benywaidd, O Ffrwyth y Gangen Hon (Barddas, 2025); a chyd-olygodd Hanan Issa Welsh Plural (Repeater Books, 2022) yn ogystal â golygu’r flodeugerdd farddoniaeth i bobl ifanc, And I Hear Dragons (Firefly Press, 2024)
  • Mae nifer o lyfrau wedi eu cyhoeddi a mwy yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Maent yn cynnwys Enwogion o Fri: Bywyd Penderfynol Betty Campbell (Llyfrau Broga, 2023) gan Nia Morais; East of the Sun, West of the Moon (Seren, 2024) gan Taz Rahman; cyfrol Alex Wharton, Red Sky at Night, Poet’s Delight (Firefly Press, 2024); pamffled o gwerddi Bethany Handley, Cling Film (Seren, 2025) a nofel gyntaf Anthony Shapland, A Room Above a Shop (Granta, 2025), sydd wedi ei galwn yn “one of the best debut novels in years” mewn adolygiad yn The Guardian.
  • Mae llawer wedi ennill gwobrau a chyrraedd rhestrau hirion a byrion. Mae rhain yn cynnwys: Gwobr Stori Fer Rhys Davies; Gwobr Awduron Dosbarth Gweithiol W&A; Gwobr Faber FAB; Gwobr Tir na n-Og; Cystadleuaeth Barddoniaeth Wildflowers; Gwobr Laurel a’r Creative Futures Gold Prize.

Gallwch ddarllen am brofiadau rhai o’r awduron hyn yn ein hastudiaethau achos, neu ymweld â rhestr chwarae Cynrychioli Cymru ar ein sianel YouTube.

Nôl i Cynrychioli Cymru